Bydd sêr Hollywood, Ryan Reynolds a Rob McElhenney, yn cael gwybod heddiw (dydd Llun, Tachwedd 16) os yw cefnogwyr Wrecsam wedi cefnogi eu cais i brynu’r clwb.
Daeth pleidlais aelodau Ymddiriedolaeth Cefnogwyr Wrecsam (WST) ar y mater i ben ddydd Sul (Tachwedd 15).
Dywedodd Reynolds a’i gyd-actor McElhenney wrth aelodau’r ymddiriedolaeth eu bod am droi Wrecsam yn “rym byd-eang”.
Os bydd aelodau WST yn cefnogi’r cynnig, mae cyfarwyddwr y bwrdd, Spencer Harris, wedi dweud ei fod yn disgwyl i’r clwb fod yn nwylo Reynolds a McElhenney o fewn ychydig wythnosau.
Gallai hynny arwain at fuddsoddi £2m yn y clwb, sydd wedi bod yn berchen i gefnogwyr ers 2011.
Cyflwynodd Reynolds a McElhenney eu gweledigaeth ddydd Sul (Tachwedd 8) mewn cyfarfod rhithiol.
Nododd y pâr eu cynlluniau ar gyfer y clwb yn y cyfarfod ar ôl i aelodau’r ymddiriedolaeth bleidleisio 95% o blaid cynnal trafodaethau gyda’r pâr.
“Amser i’r clwb symud ymlaen”
Ar ben hynny, atebodd y ddau gwestiynau gan gefnogwyr, gan wneud cryn argraff ar lywydd y clwb, Dixie McNeil.
“Maen nhw’n eithaf ifanc, maen nhw’n effro iawn i’r clwb pêl-droed a ble maen nhw eisiau iddo fynd,” meddai’r cyn-chwaraewr a rheolwr Wrecsam.
“Roedden nhw’n gadarnhaol ac rwy’n meddwl bod y cefnogwyr eisiau hynny. Roedden nhw’n sôn am gael clwb mor fyd-eang ag y gallant.
“Ar ôl yr holl amser rydym wedi cael ein rhedeg gan gymdeithas y cefnogwyr, rwy’n credu ei bod yn amser i’r clwb symud ymlaen.
“Mae’r ymddiriedolaeth wedi rhedeg y clwb yn wych ond dydyn ni ddim wedi cael arian ac mae pawb yn gwybod mewn pêl-droed bod angen arian arnoch i symud ymlaen, i brynu chwaraewyr, ac mae hyn yn gyfle gwych i ni.”
Roedd aelodau’r Ymddiriedolaeth wedi derbyn pecynnau pleidleisio cyn y cyflwyniad yn manylu ar gamau nesaf y cais gan gwmni’r ddau, RR McReynolds Company.
Dechreuodd y pleidleisio ddydd Llun (Tachwedd 9), gan bara’ hyd at ddydd Sul (Tachwedd 15) a bydd angen i 75% bleidleisio o blaid er mwyn cymeradwyo’r penderfyniad.
Mae’r clwb, a ffurfiwyd yn 1864, yn chwarae ym mhumed haen pêl-droed Lloegr ar ôl iddynt ddisgyn o’r Gynghrair Bêl-droed yn 2008.