Mae dau o sêr Hollywood, Ryan Reynolds a Rob McElhenney, wedi dweud eu bod yn gobeithio gwneud Clwb Pêl-droed Wrecsam yn “rym byd-eang” ar ôl cadarnhau eu cynlluniau i brynu’r clwb mewn cyfarfod o Ymddiriedolaeth y Cefnogwyr ddydd Sul (Tachwedd 8).

Yn y cyfarfod, datgelwyd y gallai’r clwb ymddangos mewn rhaglen ddogfen Netflix.

Mae’n debyg bod y ddau actor wedi gwneud argraff dda yn ystod cyfarfod rithiol gyda chyflwyniad a sesiwn cwestiynau ac ateb.

Dywedodd Ryan Reynolds a Rob McElhenney bod eu cynllun ar gyfer prynu Clwb Pêl-droed Wrecsam yn canolbwyntio ar ddiogelu hanes y clwb, gan atgyfnerthu gwerthoedd y dref ei hun.

Maen nhw hefyd yn bwriadu arwain Wrecsam yn ôl i’r Gynghrair Bêl-droed am y tro cyntaf ers 12 mlynedd.

“Eisiau cael peint gyda’r cefnogwyr”

“Rydyn ni eisiau bod yn y Cae Ras gymaint â phosibl a mynd i gymaint o gemau ag y gallwn,” meddai Ryan Reynolds.

“Rydyn ni eisiau cael peint gyda’r cefnogwyr. Byddwch wedi cael llond bol arnon ni! Rydym am fod yn llysgenhadon gwych i’r clwb, i gyflwyno’r clwb i’r byd a gwthio’r clwb i fod yn rym byd-eang.”

Ychwanegodd Rob McElhenney: “Dyw’r Cae Ras ddim wedi bod yn llawn ers tro. Mae gen i weledigaeth o’r Cae Ras yn llawn eto.

“Dw i wedi gweld pa mor llawn yr oedd yn arfer bod yn 1977 – rwyf wedi bod yn gwylio llawer o ffilmiau am hynny ac rwyf am i bethau fod felly eto.

“Dw i am i bobl fod yn gyffrous wrth wylio cynnydd y clwb a’r Cae Ras.”

Cynhaliwyd y cyfarfod ar ôl i 95% o aelodau’r Ymddiriedolaeth bleidleisio o blaid cynnal trafodaethau gyda’r ddau.

Bydd Wrecsam, sydd wedi bod yn eiddo i gefnogwyr ers 2011, yn awr yn gofyn i aelodau bleidleisio os ydyn nhw am weld Reynolds a McElhenney yn prynu’r clwb.

Bydd y pleidleisio’n dechrau ddydd Llun (Tachwedd 9) hyd at ddydd Sul (Tachwedd 15) a bydd angen i 75% bleidleisio o blaid er mwyn cymeradwyo’r penderfyniad.

Y gymuned a’r cefnogwyr

Pwysleisiodd Rob McElhenney hefyd pa mor bwysig yw’r gymuned a chefnogwyr y clwb yn eu cynlluniau i arwain Wrecsam yn ôl i’r Gynghrair Bêl-droed am y tro cyntaf ers 12 mlynedd.

“Rhaid cynnwys y gymuned yn fwy,” meddai. “Rhaid i ni adeiladu bwrdd cefnogwyr a bydd tryloywder llawn.

“Rydym yn teimlo y gallwn ddatblygu rhywbeth yma, a dim ond drwy wybod bod gennym gefnogaeth y gymuned y gallwn wneud hynny.”