Mae Prif Hyfforddwr Cymru, Wayne Pivac, wedi cadarnhau mai ei benderfyniad ef oedd i Byron Hayward adael tîm hyfforddi Cymru.

Ar ôl canlyniadau gwaethaf Cymru ers pedair blynedd mae Hayward wedi gadael ei swydd.

Yn ystod cynhadledd i’r wasg brynhawn dydd Llun bu’r Prif Hyfforddwr yn ateb cwestiynau ynghylch a oedd y chwaraewyr wedi dylanwadu ar y dewis.

“Rwy’n siarad yn gyson gyda’r chwaraewyr bob dydd – boed hynny am yr agwedd ymosodol, [neu’r agwedd] amddiffynnol o’r gêm.

“Rydym yn siarad ac yn adolygu sesiynau hyfforddi a sesiynau dosbarth yn gyson.

“Mae’r holl bethau hynny’n cael eu gwneud bob dydd, dim bwys pa hyfforddwr rydym yn sôn amdano.

“Fy mhenderfyniad i”

“Roedd y penderfyniad yn ymwneud â Byron yn un i mi, eisteddon ni’n dau lawr i drafod, a fy mhenderfyniad i oedd hi yn y pen draw.

“Fy mhenderfyniad i oedd hyn a rhoddais wybod i’r bobol angenrheidiol ar yr adeg briodol.

“Roeddem yn edrych ar beth sydd orau wrth symud ymlaen i Gwpan y Byd yn 2023 ac roeddem yn teimlo nad oeddem yn cyrraedd ein targedau o ran yr amddiffyn ac felly mae’r newid wedi’i wneud.

“Roedd yn benderfyniad anodd iawn oherwydd yr hanes rhwng y ddau ohonon ni.

“Rydyn ni wedi adnabod ein gilydd am chwe blynedd a hanner, ac wedi cydweithio yn ystod y cyfnod hwnnw.

“Ar ôl eistedd lawr a chael sgwrs iach a gonest y teimlad oedd, gyda dechrau tymor newydd, mai dyma oedd yr amser iawn i wneud y newid.”

Yn absenoldeb Byron Hayward, Gethin Jenkins, sydd newydd ymuno fel Hyfforddwr technegol, fydd yn bennaf gyfrifol am y gwaith amddiffynnol.