Mae prif hyfforddwr Cymru, Wayne Pivac, wedi cyhoeddi y bydd Gethin Jenkins yn ymuno â’i dîm hyfforddi fel hyfforddwr technegol, gan gymryd lle Sam Warburton.
Enillodd Gethin Jenkins 129 o gapiau dros ei wlad, gan ennill pedair pencampwriaeth Chwe Gwlad, a theithio gyda’r Llewod ar dri achlysur.
Ers ymddeol yn 2018, mae wedi hyfforddi Gleision Caerdydd, Clwb Rygbi Caerdydd a thîm dan 20 Cymru.
“Rwy’n hyddysg iawn ar ofynion y gêm ryngwladol ac rwy’n edrych ymlaen at gynnig fy mewnbwn ac ychwanegu at yr amgylchedd lle y gallaf “, meddai Gethin Jenkins.
Dechreuodd Sam Warburton ei rôl gyda Chymru fis Tachwedd diwethaf, ond mae wedi penderfynu rhoi’r gorau er mwyn canolbwyntio ar ei ymrwymiadau eraill a threulio mwy o amser a’i deulu.
‘Edrych ymlaen at gydweithio’
Bydd Gethin Jenkins yn cychwyn fel hyfforddwr technegol ar ddechrau ymgyrch yr hydref, gan weithio ochr yn ochr â Sam Warburton am gyfnod trosglwyddo byr.
“Bydd Gethin yn ychwanegiad gwych i’r tîm hyfforddi ac rwy’n edrych ymlaen at gydweithio gydag ef”, meddai Wayne Pivac.
“Hoffwn ddiolch i Sam am ei waith caled dros y flwyddyn ddiwethaf a’r hyn y mae wedi’i roi i’r tîm ac i Gymru.
“Hoffwn ddiolch iddo am ei onestrwydd ynglŷn â’i ddyfodol a’r angen i dreulio mwy o amser ar brosiectau eraill i ffwrdd o’r gêm, dymuniadau gorau iddo.”