Mae chwaraewr canol cae Cymru a Charlton, Jonny Williams, wedi cyfaddef ei fod wedi pendroni a fyddai’n cael y cyfle i chwarae i Gymru eto mewn gyrfa “chwyrligwgan” sydd wedi cynnwys saith cyfnod ar fenthyg.

Sgoriodd Jonny Williams ei gôl gyntaf dros ei wlad yn y fuddugoliaeth yn erbyn Bwlgaria nos Fercher (Hydref 14), wrth i Gymru aros ar dop ei grŵp yng Nghynghrair y Cenhedloedd.

Dywedodd fod sgorio’r gôl yn “deimlad anhygoel.”

Treuliodd gyfnodau ar fenthyg o Crystal Palace yn Ipswich, Nottingham Forest, MK Dons a Sunderland cyn symud i Charlton.

“Roedd yno gyfnodau cwpl o flynyddoedd yn ôl lle’r oeddwn yn pendroni a fyddwn i byth yn ôl mewn crys Cymru,”meddai.

“Dw i wedi cael lot o amseroedd da mewn crys Cymru a gyda chlybiau ond dwi wedi cael profiadau anodd.

“Mae rhai pobol yn cael gyrfaoedd anhygoel sy’n gwella, gwella, gwella – mae fy ngyrfa i wedi bod yn dipyn o chwyrligwgan.

“Bues i’n meddwl pryd y byddwn yn sgorio fy ngôl gyntaf dros Gymru a dw i dal methu credu’r peth. Mae’n deimlad anhygoel.”

Edrych yn ôl

Y tro diwethaf roedd Cymru’n herio Bwlgaria yn Sofia yn 2011, roedd Jonny Williams yn eilydd 18 oed.

Gareth Bale sgoriodd y gôl fuddugol y noson honno, wrth i dîm Gary Speed guro Bwlgaria o gôl i ddim.

“Roeddwn i ar y fainc yn gwylio chwaraewyr fel Bellers (Craig Bellamy) a Balo (Gareth Bale),” meddai Jonny Williams.

“Naw mlynedd y ddiweddarach a dw i’n sgorio’r gôl fuddugol. Mae’n wallgof sut mae pêl-droed yn gweithio.

“Dw i a Ben Davies yn chwerthin am y peth nawr, mae’r ddau ohonom wedi bod yma ers yr oeddem yn fechgyn ifanc ac roedd gen i lwyth o wallt.”

Cymru heb ildio gôl mewn gêm gystadleuol ers dros 10 awr

D’yw Cymru, sydd heb gael eu trechu mewn naw gêm gystadleuol, ddim wedi ildio gôl ers bron i 10 awr bellach.

Mae dynion Ryan Giggs yn wynebu gemau cartref yn erbyn Gweriniaeth Iwerddon a’r Ffindir, sydd un pwynt y tu ôl i Gymru, yn ei dwy gêm olaf yng Nghynghrair y Cenhedloedd.

“Mae hi’n garfan arbennig ac efo lwc byddwn yn gallu parhau ar y rhediad hwn,” meddai Jonny Williams.

“Rydan ni wedi cadw sawl lechen glan ac mae triphwynt arall yn ein rhoi mewn safle gwych.”