Mae Jonny Williams wedi bod yn disgrifio’r “teimlad anhygoel” o sgorio’i gôl gyntaf dros Gymru, gan gyfaddef nad oedd e’n credu ar un adeg y byddai’n cael y cyfle.

Sgoriodd e’r gôl fuddugol yn Sofia neithiwr (nos Fercher, Hydref 14) wrth i Gymru guro Bwlgaria o 1-0 yng Nghynghrair y Cenhedloedd.

Daeth ei gôl wrth iddo wyro croesiad Neco Williams o’r asgell dde i mewn i’r gôl yn y cwrt cosbi.

Mae’n coroni cyfnod llwyddiannus i Gymru yn eu gemau cystadleuol diwethaf wrth iddyn nhw gadw llechen lân yn erbyn Bwlgaria a Gweriniaeth Iwerddon, er bod eu perfformiad o flaen y gôl wedi bod yn wannach heb Gareth Bale, Aaron Ramsey a Hal Robson-Kanu.

“Mae’n deimlad anhygoel,” meddai ar ôl y gêm.

“Roedd yna adeg pan o’n i’n cwestiynu a fyddwn i fyth yn sgorio fy ngôl gyntaf. Alla i ddim credu’r peth.”

Dim torf na theulu

Mae’n dweud ei bod yn drueni nad oedd ei deulu wedi gallu bod yn y stadiwm – er bod yna dorf fechan o bobol yno.

“Mae’n siŵr y byddai ’nhad wedi tynnu’i grys ar ryw adeg, felly mae fwy na thebyg yn fendith nad oedd e yma am unwaith!” meddai, â’i dafod yn ei foch.

“Mae’n siŵr eu bod nhw wrth eu boddau adre’ a byddai wedi bod yn anhygoel pe bai cefnogwyr Cymru wedi gallu bod  yma i weld fy ngôl gynta’ ond mae’r amgylchiadau’n rhyfedd.

“Roedden ni’n gwybod pa mor bwysig fyddai buddugoliaeth i ni heno yn y grŵp, ac roedd yn deimlad anhygoel cael cyfrannu a sgorio fy ngôl gyntaf.

“Byddwn i wrth fy modd yn cael sgorio mwy o goliau ac fe wnes i roi fy hun mewn sefyllfa i wneud hynny heno.

“Dw i’n diolch i’r bòs am y cyfleoedd ers i fi ddod ’nôl yn ffit, gan fod yna adeg sawl blwyddyn yn ôl pan o’n i’n cwestiynu a fyddwn i’n dod yn ôl i wisgo crys Cymru eto.

“Pan dw i wedi bod ar gael, mae e wedi troi ata’i ac roedd hi’n braf cael diolch iddo am ddangos ffydd ynof fi.”

Ryan Giggs yn pwyso a mesur

Ar y cyfan, mae Ryan Giggs yn dweud ei fod e’n “falch” o’i chwaraewyr ond fod yna agweddau o’u chwarae sydd angen gwella arnyn nhw.

“Mae’r tîm yn un ifanc a byddan nhw’n dysgu o berfformiadau fel hwn,” meddai.

“Rydyn ni’n dal i gael ein hunain mewn safleoedd da ond mae angen canolbwyntio ar y bàs neu’r ergyd olaf.

“Dw i’n amlwg yn hapus gyda’r gôl, roedd hi’n gôl ragorol ond gallwn ni wella o hyd, a byddwn ni’n gwella drwy chwarae gemau fel hyn a magu mwy o brofiad.”

Ar y cyfan, mae Cymru wedi colli yn erbyn Lloegr, gorffen yn gyfartal â Gweriniaeth Iwerddon a churo Bwlgaria yn ystod y gemau diweddaraf, ac mae Ryan Giggs yn dweud ei fod e’n falch o’r garfan o ystyried bod pob un o’r gemau oddi cartref.

“Tair gêm oddi cartref, pedwar gwesty gwahanol, tri phrawf Covid, llawer o waharddiadau ac anafiadau, felly roedd gyda ni dipyn i ymdopi â fe ond ro’n i mor falch o’r chwaraewyr,” meddai.

“Ry’n ni’n falch iawn o’r elfennau amddiffynnol ond nid dim ond amddiffynwyr a golwyr sydd gyda ni,” meddai.

“Rydyn ni eisiau gwasgu o’r blaen a bod yn ymosodol ac rydyn ni’n gwneud hynny.

“Fe wnaeth y chwaraewyr jobyn o waith, ac fe wnaethon nhw ofalu amdanyn nhw eu hunain yr wythnos hon.

“Dw i wedi dweud ym mhob cynhadledd nad yw’n hawdd wrth geisio cydbwyso’r munudau a sicrhau bod pawb y ffres a bod eilyddio’n digwydd hefyd.

“Dw i’n falch iawn gyda’r canlyniadau ond mewn rhai mannau, dw i’n credu ein bod ni wedi chwarae’r bêl-droed orau dw i wedi’i gweld ers amser hir.”