Sgoriodd Jonny Williams unig gôl y gêm i Gymru heno (nos Fercher, Hydref 14), wrth iddyn nhw guro Bwlgaria yng Nghynghrair y Cenhedloedd yn Sofia.

Fe ddaeth i’r cae yn eilydd yn lle Harry Wilson yn yr ail hanner, gan roi gêr ychwanegol i Gymru ar ddiwedd noson oedd yn llawn camgymeriadau a gwendidau ar draws y cae.

Aeth pethau o ddrwg i waeth i Gymru cyn y gôl wrth iddyn nhw golli’r golwr Wayne Hennessey ag anaf i’w goes.

Daeth cyfle cynnar i Joe Rodon wrth iddo benio’r bêl dros y trawst ac fe wnaeth Tyler Roberts roi arbediad syml i’r golwr â pheniad digon ysgafn.

Cafodd ergyd Daniel James ei gwyro heibio’r postyn wedyn wrth i Gymru bentyrru’r pwysau ar y gwrthwynebwyr.

Ond daeth awr fawr Williams gyda’i gôl gyntaf dros ei wlad ar ôl gwyro chwip o groesiad i’r cwrt cosbi o’r asgell dde gan Neco Williams.

Fe gafodd Cymru y gorau o’r meddiant drwyddi draw ac roedd rhwystredigaeth Bwlgaria’n amlwg am gyfnodau hir gydag un dacl flêr ar ôl y llall wrth i Gymru chwilio am ysbrydoliaeth.

Daeth cyfle i eilydd arall, Rabbi Matondo wrth i Tyler Roberts ei ddarganfod â chroesiad, ond heibio’r postyn aeth y bêl wrth i Matondo faglu.

Daeth y golwr Adam Davies i’r cae am y 12 munud olaf ond prin fod angen neb yn y gôl i Gymru gyda chyn lleied o fygythiad o du Bwlgaria.