Mae’r bachwr Ken Owens a’r blaenasgellwr Josh Macleod wedi eu rhyddhau o garfan Cymru ar gyfer gemau’r Hydref ar ôl cael eu hanafu wrth chwarae i’r Scarlets.

Mae Elliot Dee a James Davies wedi eu galw i’r garfan.

Roedd Josh Macleod yn un o saith chwaraewr oedd wedi’u cynnwys yng ngharfan Cymru am y tro cyntaf.

Bydd Cymru yn chwarae eu gêm gyntaf mewn 7 mis yn erbyn Ffrainc ym Mharis ar Hydref 24, cyn y gêm yn erbyn yr Alban a gafodd ei gohirio yn gynharach eleni oherwydd y coronafeirws, ym Mharc y Scarlets.

Yna, bydd Cymru yn wynebu Iwerddon, Georgia a Lloegr, yn ogystal â gêm rownd derfynol yng Nghwpan Cenhedloedd yr Hydref.

Gan fod y gwaith o ddatgomisiynu Ysbyty Calon y Ddraig yn Stadiwm Principality yn parhau, dydy hi ddim yn glir eto ymhle fydd Cymru’n herio Lloegr na gêm y rownd derfynol.

Mae’r gystadleuaeth wyth tîm newydd yn cynnwys Ffiji a Georgia, yn ogystal â’r gwledydd sydd fel arfer yn chwarae ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad.

Ffrainc v Cymru Gêm Gyfeillgar Hydref 24, 20:00
Cymru v Yr Alban Chwe Gwlad 2020 Hydref 31, 14.15
Iwerddon v Cymru Rownd un Cwpan Cenhedloedd yr Hydref Tachwedd 13, 19:00
Cymru v Georgia Rownd dau Cwpan Cenhedloedd yr Hydref Tachwedd 21, 17:15
Cymru v Lloegr Rownd tri Cwpan Cenhedloedd yr Hydref Tachwedd 28, 16:00
Cymru v i’w gadarnhau Rowndiau Terfynol Cwpan Cenhedloedd yr Hydref Rhagfyr 5, 16:45