Mae Wayne Pivac, prif hyfforddwr tîm rygbi Cymru, wedi enwi saith chwaraewr newydd yn ei garfan 38 dyn ar gyfer gemau’r hydref.
Mae Sam Parry, Josh Macleod, Kieran Hardy, Callum Sheedy Johnny Williams, Louis Rees-Zammit ac Ioan Lloyd wedi’u cynnwys am y tro cyntaf.
Yn dilyn anafiadau’r llynedd, mae Tomas Francis, Rhys Patchell a Jonathan Davies a gollodd allan ar ymgyrch y Chwe Gwlad yn gynharach eleni yn dychwelyd i’r garfan.
Ond does dim lle i Steff Evans, Hallam Amos, Ashton Hewitt, Willis Haloholo, Jarrod Evans, Sam Davies, James Davies, Adam Beard, Elliot Dee na WillGriff John.
Roedd disgwyl i WillGriff John ennill ei gap cyntaf yn erbyn yr Alban fis Mawrth, cyn i’r gêm honno gael ei gohirio oherwydd y coronafeirws.
Oherwydd anafiadau, dydy Rob Evans, Aaron Shingler, Tomos Williams, Owen Lane na Johnny McNicholl ddim wedi eu cynnwys yn y garfan.
Pivac yn edrych ymlaen at gael y garfan ryngwladol ar ei gilydd
“Ry’n ni’n edrych ymlaen at fynd yn ôl i chwarae rygbi rhyngwladol a chael y garfan at ei gilydd eto,” meddai Wayne Pivac.
“Mae’r ymgyrch hon yn hynod bwysig gan edrych i’r dyfodol a thua Chwpan Rygbi’r Byd yn 2023.
“Rydyn ni’n cychwyn yr ymgyrch gyda gêm yn erbyn Ffrainc a fydd yn ein helpu i baratoi ar gyfer y gêm Chwe Gwlad wedi’i haildrefnu yn erbyn yr Alban sy’n gêm bwysig iawn.
“Yna, rydyn ni’n mynd i mewn i Gwpan Cenhedloedd yr Hydref, sy’n gystadleuaeth gyffrous ac yn gyfle gwych i ni.
“Mae’n gyfle i ni barhau i ddatblygu ein gêm, rhoi cyfleoedd i chwaraewyr a’u profi ar y lefel hon.
“Mae’n baratoad delfrydol ar gyfer Pencampwriaeth y Chwe Gwlad 2021.”
Gemau Cymru
Bydd Cymru yn wynebu Ffrainc ym Mharis ddiwedd fis Hydref, cyn y gêm yn erbyn yr Alban a gafodd ei gohirio yn gynharach eleni oherwydd y coronafeirws, ym Mharc y Scarlets.
Yna, bydd Cymru yn wynebu Iwerddon, Georgia a Lloegr, yn ogystal â gêm rownd derfynol yng Nghwpan Cenhedloedd yr Hydref.
Gan fod y gwaith o ddatgomisiynu Ysbyty Calon y Ddraig yn Stadiwm Principality yn parhau, dydy hi ddim yn glir eto ym mle fydd Cymru’n herio Lloegr na gêm y rownd derfynol.
Ffrainc v Cymru | Gêm Gyfeillgar | Hydref 24, 20:00 |
Cymru v Yr Alban | Chwe Gwlad 2020 | Hydref 31, 14.15 |
Iwerddon v Cymru | Rownd un Cwpan Cenhedloedd yr Hydref | Tachwedd 13, 19:00 |
Cymru v Georgia | Rownd dau Cwpan Cenhedloedd yr Hydref | Tachwedd 21, 17:15 |
Cymru v Lloegr | Rownd tri Cwpan Cenhedloedd yr Hydref | Tachwedd 28, 16:00 |
Cymru v i’w gadarnhau | Rowndiau Terfynol Cwpan Cenhedloedd yr Hydref | Rhagfyr 5, 16:45 |
Carfan lawn Cymru
Blaenwyr: Rhys Carre, Wyn Jones, Nicky Smith, Ken Owens, Ryan Elias, Sam Parry*, Samson Lee, Dillon Lewis, Tomas Francis, Leon Brown, Alun Wyn Jones, Will Rowlands, Jake Ball, Seb Davies, Cory Hill, Aaron Wainwright, Ross Moriarty, Taulupe Faletau, Josh Navidi, Justin Tipuric, Josh Macleod*
Olwyr: Rhys Webb, Gareth Davies, Kieran Hardy*, Dan Biggar, Rhys Patchell, Callum Sheedy*, Owen Watkin, Nick Tompkins, Jonathan Davies, Johnny Williams*, George North, Josh Adams, Louis Rees-Zammit*, Jonah Holmes, Leigh Halfpenny, Ioan Lloyd*, Liam Williams
(*Chwaraewyr heb gap)