Mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn dweud ei bod hi’n “warthus” fod gofalwyr iechyd yn dal i aros am fonws o £500 yn dilyn cyfnod y coronafeirws.

Aeth pum mis heibio bellach ers i’r taliad gael ei gyhoeddi, ac mae dau draean o ofalwyr iechyd Cymru’n dal i aros amdano.

Yn ôl Andrew RT Davies, llefarydd iechyd y Ceidwadwyr Cymreig, mae’r oedi’n “warthus, yn syml iawn”.

“Ym mis Mai, a’r pandemig yn ei anterth, y gwnaeth y prif weinidog ei gyhoeddiad,” meddai.

“Ond mae rhai o’n gofalwyr sy’n gweithio’n galed yn dal i aros amdano.

“Yn wir, fe fu’n gwpan wenwynig i’r Blaid Lafur.”

‘Bwriad da’

Tra bod Andrew RT Davies yn cydnabod fod gan y Blaid Lafur “fwriad da” wrth gynnig y taliad, mae’n dweud eu bod nhw “wedi siomi miloedd o weithwyr gofal ac eraill sy’n ymroeddedig ac yn gweithio’n ddiflino” wrth fethu â sylweddoli y byddai’n rhaid talu treth a chyfraniad Yswiriant Gwladol ar y taliad.

Ac mae’n cyhuddo’r prif weinidog Mark Drakeford o “fethu â gwirio a fyddai’r bonws o bosib yn effeithio ar fuddion o fewn gwaith”.

“A bellach, bum mis yn ddiweddarach, dim ond traean o’n gweithwyr gofal sydd wedi derbyn eu bonws,” meddai.

“Mae hyn jyst yn rhoi halen ar y briw, ac mae’n profi i fod yn gamgymeriad poenus gan Llywodraeth Lafur Cymru, ac yn un siomedig i staff y sector gofal.”

‘Cynllun cymhleth’

Mae disgwyl i Lywodraeth Cymru ddarparu £500 o daliadau i fwy na 65,000 o weithwyr gofal sydd wedi’u cyflogi gan tua 1,000 o gwmnïau a sefydliadau gwahanol.

Eglurodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru fod hwn yn “gynllun cymhleth”.

“Mae tua thraean o’r gweithwyr gofal eisoes wedi derbyn eu taliad”, meddai.

“Mewn rhai achosion, mae taliadau’n cael eu gwneud mewn pecynnau cyflog diweddarach ar gais.

“Rydym yn parhau i weithio gydag awdurdodau lleol i sicrhau bod y taliad ychwanegol hwn yn cyrraedd y gweithlu gofal cymdeithasol cyn gynted â phosibl ac yn disgwyl y bydd y mwyafrif yn cael eu gwneud ym mhecynnau cyflog y mis hwn.”

Ychwanegodd y llefarydd fod Llywodraeth Cymru yn “siomedig” fod Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi dewis trethu’r taliad hwn i weithwyr gofal cymdeithasol.

Yn ôl Llywodraeth Cymru, mae hyn yn “tynnu arian allan o bocedi rhai o’r gweithwyr gofal fwyaf prysur yng Nghymru”.