Mae cyfyngiadau’r coronafeirws wedi cynnig elfen o risg ond hefyd gyfleoedd newydd i bapurau bro ledled Cymru, yn ôl y rhai sy’n gyfrifol amdanyn nhw.

Dros y saith mis diwethaf, mae’r byd o’n cwmpas wedi ei drawsnewid yn llwyr, ac mae hynny wedi arwain at yr angen am greadigrwydd a hyblygrwydd wrth i bawb addasu i’r ‘normal newydd’.

Un gwasanaeth canolog i gymdeithas sydd wedi dygymod â’r drefn newydd yma yw’r papurau bro.

Bellach, mae modd darllen dros 30 o bapurau bro yn ddigidol ar eu gwefannau neu drwy wefan Bro360.

Llais Ogwan

Un o’r rhain, yw Llais Ogwan yn Nyffryn Ogwen.

“Ers mis Ebrill, mae Llais Ogwan wedi bod ar gael yn ddigidol. Roedd rhaid i’r wasg gau ac felly doedd dim modd cyhoeddi copïau caled,” meddai Gareth Llwyd, ysgrifennydd y papur.

Mae’n cydnabod y gall y ddarpariaeth ddigidol olygu bod modd i’r papur gyrraedd cynulleidfaoedd ehangach, ond dywed hefyd ei fod yn gofidio ynglŷn â rhai aelodau hŷn cymdeithas, nad ydyn nhw bob amser yn “gyfarwydd â darllen deunydd electronig”.

“Mi yda ni wedi bod yn ystyried ail gychwyn cyhoeddi copïau caled dros y mis diwethaf ond oherwydd ail don y pandemig, dyda ni ddim yn teimlo bod yr amser yn briodol ar hyn o bryd ac felly am barhau i gyhoeddi rhifynnau digidol, cyn adolygu’r sefyllfa unwaith eto,” meddai.

Mae’n debyg y gallai’r ansicrwydd diweddar eu hatal rhag mynd yn ôl i brint cyn diwedd y flwyddyn.

Mae’n cydnabod fod y cyfyngiadau presennol hefyd yn ei gwneud hi’n anodd i gynnal cyfarfodydd, er mwyn trafod y camau nesaf a llunio strategaeth gadarn.

Papur bro Lleu

Mae heriau ymarferol o’r fath wedi cael eu hadleisio ymhlith swyddogion papurau bro eraill hefyd, fel yr eglura Siwan Mair, cadeirydd papur bro Lleu yn ardal Dyffryn Nantlle.

“Fel arfer mi ydan ni’n gallu eistedd rownd bwrdd i drafod,” meddai.

“Rŵan, mae’n rhaid i hynny gael ei wneud drwy decst neu e-bost, sydd ddim yr un peth.”

Er hynny, yn wahanol i Lais Ogwan, mae papur bro Lleu wedi penderfynu ailafael yn yr awenau gan gychwyn cyhoeddi copïau print unwaith yn rhagor, wedi cyfnod o ddarparu rhifynnau electronig yn unig.

“Roedd mynd yn ôl i brint yn eithaf rhwydd, ond mae’r sefyllfa yn newid yn gyson ac felly efallai y bydd rhaid i ni fynd yn ôl i ddarpariaeth electronig os ydi’r sefyllfa yn gwaethygu eto,” meddai.

Yn y cyfamser, dywed eu bod wedi penderfynu dod â’r ddarpariaeth ddigidol i ben, hyd nes bod modd sefydlu system o danysgrifio, er mwyn atal colledion ariannol.

Mae’n cydnabod fod symud o’r papur i’r digidol a gafodd ei dreialu yn ystod y cyfnod hwn yn debygol o ddod yn fwyfwy pwysig iddyn nhw yn y dyfodol.

Yr Angor

Papur bro a gymerodd y penderfyniad i beidio â chyhoeddi o’ gwbl ar sail cyfyngiadau’r misoedd diwethaf, oedd yr Angor yn Aberystwyth.

“Doedden i ddim eisiau tynnu pobl allan o’u cartrefi” Eglurai, “dydw i ddim yn meddwl bod pobl yn sylwi faint o waith sydd yn mynd i gasglu storïau a chyfweld,” meddai’r cadeirydd Megan Jones.

Bellach, mae’r Angor wedi llwyddo i fynd yn ôl i brint, ac wrth drafod y profiad, dywed Megan Jones fod “gennym ni system dda mewn lle, ac fe aeth popeth yn ffantastig”.

Mae’n ymddangos nad oedd prinder cynnwys chwaith, ac mewn gwirionedd, dywed fod y cyfnod clo a’r straeon a ddeilliodd o hynny wedi golygu bod mwy o destun i’w gynnwys.

Does dim amheuaeth fod y misoedd diwethaf wedi bod yn gyfnod ansicr iawn i bapurau bro Cymru, wrth i’r arfer o gyfarfod a thrafod, plygu a dosbarthu ddod i ben.

Er hynny, gwelwyd elfen o gyfle hefyd, wrth i gyfyngiadau presennol cymdeithas annog ac ysgogi rhai papurau bro i orlethu cyfyngiadau traddodiadol eu hunain a throi i’r ddigidol.

“Un peth mi oedden ni wedi ei benderfynu o’r cychwyn cyntaf, oedd bod y papur yn bwysig i bobl yr ardal ac ein bod am ffeindio ffordd rownd hyn,” meddai Siwan Mair.