Mae Prifysgol Bangor wedi dweud mai iechyd a lles myfyrwyr, staff a’r gymuned leol yw blaenoriaeth y brifysgol, ar ôl i Vaughan Gething, Ysgrifennydd Iechyd Cymru, ddweud mai cynnydd ymhlith myfyrwyr sydd yn gyfrifol am y cynnydd mewn achosion o’r coronafeirws yn y sir.

Er nad oedd modd i’r brifysgol gadarnhau faint o achosion sydd o fewn y gymuned o fyfyrwyr, cadarnhaodd llefarydd fod achosion ymysg myfyrwyr sydd yn byw ar y campws.

“Mae Covid 19 bellach yn bresennol ymysg ein myfyrwyr, rhai yn fyfyrwyr sy’n preswylio ar y campws,” meddai wrth golwg360.

“Yn y cyd-destun hwnnw, mae mesurau hunanynysu ar waith yn ein neuaddau preswyl.

“Ein blaenoriaeth ar hyn o bryd a thrwy gydol yr amser anodd hwn yw amddiffyn iechyd a lles ein myfyrwyr, ein staff a’r gymuned leol.”

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru hefyd wedi dweud eu bod nhw’n bryderus am y cynnydd mewn achosion o’r coronaferiws yng Ngwynedd.

Gofyn i rannau o gymunedau ynysu

Mae Vaughan Gething wedi awgrymu mai dim ond rhannau o gymunedau myfyrwyr yng Ngwynedd fydd yn gorfod ynysu.

“Yng Ngwynedd, rydyn ni’n gweld cynnydd mewn achosion rydyn ni’n meddwl sy’n gysylltiedig â llond llaw o achosion positif o fewn y boblogaeth fyfyrwyr yno,” meddai.

“Os ydym yn sicr mai dyna beth sy’n digwydd, a dyna fy nealltwriaeth i ar hyn o bryd, yr hyn sydd angen i ni ei wneud yw ynysu rhannau o’r gymuned lle mae’r haint yno a lle mae achosion newydd, a pheidio â chymryd camau ar draws y gymuned gyfan.

“Gallai hynny olygu bod angen i rai pobol mewn rhannau o’r cymunedau ynysu, ond nid y gymuned fyfyrwyr cyfan.”

Cynlluniau sydd ar waith ym Mhrifysgol Bangor

Ychwanegodd y llefarydd ar ran Prifysgol Bangor fod cynlluniau ar waith er mwyn gofalu am fyfyrwyr, ac na fyddai’r brifysgol yn oedi i ddisgyblu myfyrwyr pe bai angen.

“Rhoddodd y Brifysgol gynlluniau manwl ar waith ar gyfer dychwelyd i’r campws,” meddai.

“Rydym yn darparu addysg trwy ddull dysgu cyfunol, ac mae adeiladau wedi eu haddasu er mwyn cynnal pellter cymdeithasol ac amddiffyn myfyrwyr a staff.

“Mae pob myfyriwr wedi cael ei friffio ar eu cyfrifoldebau a’r hyn yr ydym yn ei ddisgwyl ganddynt er mwyn cadw eu hunain ac eraill yn ddiogel, yn enwedig mewn lleoliadau cymdeithasol lle na all y Brifysgol reoli’r ffordd y maent yn cymysgu.

“Maen nhw’n cael eu hatgoffa’n rheolaidd o’u cyfrifoldebau personol ac mae’r Brifysgol yn defnyddio ei gweithdrefnau disgyblu lle bo angen.”