Mae lle i gredu mai cynnydd ymhlith myfyrwyr sydd yn gyfrifol am dwf y coronafeirws yng Ngwynedd.
Wrth siarad yn y gynhadledd i’r wasg brynhawn heddiw (Hydref 5) dywedodd y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething: “Yng Ngwynedd, rydyn ni’n gweld cynnydd mewn achosion rydyn ni’n meddwl sy’n gysylltiedig â llond llaw o achosion positif o fewn y boblogaeth myfyrwyr yno.
“Byddwn ni’n gwahanu hynny yn yr un ffordd yn union ag yr ydym eisoes wedi gwneud gyda chymunedau eraill yn y gorffennol.
“Os ydym yn sicr mai dyna beth sy’n digwydd, a dyna fy nealltwriaeth i ar hyn o bryd, yr hyn sydd angen i ni ei wneud yw ynysu rhannau o’r gymuned lle mae’r haint yno a lle mae achosion newydd, a pheidio â chymryd camau ar draws y gymuned gyfan.
“Gallai hynny olygu fod angen i rai pobol mewn rhannau o’r cymunedau ynysu, ond nid y gymuned myfyrwyr cyfan.”
Nifer yr achosion
Cadarnhaodd Grŵp Llandrillo Menai dros y penwythnos bod pum myfyriwr Lefel A sydd yn astudio ar gampysau Dolgellau, Pwllheli a Glynllifon wedi profi’n bositif am Covid-19 wedi i griw o fyfyrwyr fynd ar noson allan gyda’i gilydd i Lerpwl.
Yr wythnos ddiwethaf cadarnhaodd Prifysgol Bangor fod 6 o fyfyrwyr wedi profi’n bositif am y feirws.
Roedd un yn byw mewn neuaddau preswyl, tri mewn llety preifat, a dau yn ynysu gartref.
Mae golwg360 wedi gofyn am ddiweddariad gan Brifysgol Bangor ac am ymateb i sylwadau y Gweinidog Iechyd.