Mae gobeithion Geraint Thomas o ennill y Giro d’Italia drosodd ar ôl damwain.
Fe wnaeth y Cymro daro potel ddŵr a chwympo’n galed.
Gyda 18 diwrnod o rasio ar ôl, mae Geraint Thomas bellach 11 munud a 17 eiliad ar ei hôl hi.
Er bod ei git wedi rhwygo’n wael parhaodd yn y ras, ond fe gwympodd y tu ôl i’r peloton ac mae adroddiadau ei fod wedi’i anafu.
Bu rhaid i Filippo Ganna aberthu ei grys pinc hefyd er mwyn rhoi cefnogaeth ychwanegol i Geraint Thomas yn ystod y cymal.
Roedd yn ddiweddglo creulon i obeithion Geraint Thomas, dair blynedd ar ôl i ddamwain gyda beic modur yr heddlu ar gymal naw y Giro d’Italia chwalu ei obeithion yn 2017.
Jonathan Caicedo o dîm EF Pro Cycling enillodd y trydydd cymal.
Y ddamwain
We've been sent footage of Thomas' crash by Scordia CT.
Very unfortunate with the bidon. #Giro pic.twitter.com/q41L679zP2
— La Flamme Rouge (@laflammerouge16) October 5, 2020