Mae’r gyrrwr ralio Elfyn Evans yn dweud y “bydd Sardinia bob amser yn lle arbennig iawn” iddo, wrth iddo baratoi i fynd cam yn nes at ennill Pencampwriaeth y Byd dros y penwythnos.

Evans a’i bartner Scott Martin fydd y ddau gyntaf allan ar y graean gan mai nhw sydd ar frig y bencampwriaeth.

Gallai hynny ei gwneud hi’n haws i’r gyrwyr y tu ôl iddyn nhw afael yn ffordd, ond y Cymro yw’r ffefryn o dipyn o beth i gipio’r teitl a bod y Cymro cyntaf erioed i ennill Pencampwriaeth y Byd.

Mae gan Evans fantais o 18 pwynt ym mhencampwriaeth y gyrwyr dros Sébastien Ogier.

Enillodd e’r rasys yn Nhwrci a Sweden, a dydy e ddim wedi gorffen yn is na phedwerydd yn yr un o’r rasus hyd yn hyn.

Ar drothwy’r ras fawr, mae Evans yn cofio’r tro cyntaf iddo yrru car ralio – yn Sardinia saith mlynedd yn ôl.

“Dw i’n credu bod pawb yn cofio’r tro cyntaf iddyn nhw fynd y tu ôl i lyw car ralio’r byd ac am y rheswm hwnnw, bydd Sardinia bob amser yn lle arbennig iawn i fi,” meddai.

“Dydy hi ddim yn rali hawdd ond unwaith rydach chi wedi bod yno sawl gwaith, rydach chi’n dysgu mwynhau natur heriol y cymalau.

“Pwy a wyr beth fydd yn digwydd rhwng rwan a diwedd y tymor?

“Rydan ni’n gwybod, yn y pen draw, y gall fod un ymddeoliad ac mae’n cael ei throi ar ei phen eto.

“Rhaid i ni ddal i ganolbwyntio ar gyfer y ralïau nesaf.”