Roedd digon o ddryswch yn Stadiwm Liberty neithiwr (nos Lun, Hydref 5) wrth i’r ffenest drosglwyddo ryngwladol gau’n glep am 11 o’r gloch.

Mae Joe Rodon, amddiffynnwr Cymru, yn dal gyda’r clwb ar ôl i’r Elyrch a Spurs fethu â dod i gytundeb ynghylch ei werth, gyda’r Elyrch yn gofyn am ffi o ryw £18m, tra bo’r clwb yng ngogledd Llundain ond yn fodlon talu tuag £8m.

Ond y dyfalu mwyaf yw pam fod y perchennog Steve Kaplan wedi camu o’i rôl yn gyfarwyddwr, tra bo’r prif weithredwr newydd Julian Winter wedi ymuno â’r bwrdd yn dilyn ymadawiad y cadeirydd Trevor Birch rai wythnosau’n ôl.

Serch hynny, fydd rôl Kaplan o fewn y clwb ddim yn newid am y tro.

Fe ddaeth y newyddion am Kaplan ar ôl i ddogfen Tŷ’r Cwmnïau ddod i’r fei yn amlinellu sawl newid ar lefel y bwrdd cyfarwyddwyr.

Joe Rodon

O ran Joe Rodon, mae gan Spurs tan Hydref 16 i’w ddenu atyn nhw, gan mai dyna pryd fydd yr ail ffenest drosglwyddo – y ffenest ddomestig – yn cau.

Mae’r chwaraewr 22 oed hefyd wedi denu sylw Manchester United a West Ham.

Ac mae lle i gredu y gallai unrhyw drosglwyddiad i Spurs gael ei hwyluso gan y berthynas sydd rhwng Trevor Birch a’i gyn-glwb.

Mae’r Elyrch eisoes wedi arwyddo’r ymosodwr Viktor Gyokeres yn dilyn cyfnod o bwysleisio bod angen mwy o fygythiad o flaen y gôl.

Mae Jamal Lowe, Korey Smith a Morgan Gibbs-White hefyd wedi dod i mewn i gryfhau’r garfan yng nghanol y cae, tra bod Freddie Woodman a Marc Guehi wedi ailymuno ar fenthyg.

Yn y cyfamser, roedd ffrae ynghylch gwerthu Kristoffer Peterson dros y penwythnos, ar ôl i Julian Winter ofyn i Steve Cooper, y rheolwr, mewn neges destun beidio â chynnwys yr asgellwr yn y garfan cyn iddo ymuno â Düsseldorf.