Mae’r cricedwr rhyngwladol Najeeb Tarakai wedi marw o ganlyniad i’w anafiadau yn dilyn gwrthdrawiad yn Affganistan yr wythnos ddiwethaf.

Cafodd y batiwr agoriadol 29 oed ei daro gan gar yn Nwyrain Nangarhar a’i gludo i’r ysbyty ag anafiadau difrifol.

Daeth cadarnhad o’i farwolaeth mewn datganiad gan Fwrdd Criced Affganistan ar Twitter.

Dywed y bwrdd fod y newyddion yn “dorcalonnus”, a bod Najeeb Tarakai yn “fatiwr agoriadol ymosodol ac yn fod dynol hynaws” a bod ei farwolaeth wedi achosi “sioc” iddyn nhw.

Roedd e wedi chwarae mewn un gêm ugain pelawd dros ei wlad, ac roedd ganddo fe gyfartaledd o 47.20 gyda’r bat mewn 24 o gemau dosbarth cyntaf yn ei wlad.