Fe fydd Hal Robson-Kanu yn cael llawdriniaeth yfory (dydd Mercher, Hydref 7) ar ôl torri ei fraich.

Fydd y Cymro ddim ar gael ar gyfer gemau Cymru yn erbyn Lloegr, Gweriniaeth Iwerddon a Bwlgaria yn ystod y cyfnod rhyngwladol sydd ar fin dechrau i dîm Ryan Giggs yn Wembley.

Fe wnaeth Robson-Kanu dorri ei fraich yng ngêm West Brom yn erbyn Southampton ddydd Sul (Hydref 4), ac yntau wedi dod i’r cael yn eilydd.