Mae’r Cymro Geraint Thomas allan o ras feics y Giro d’Italia ar ôl torri’i belfis mewn gwrthdrawiad.

Roedd y cystadleuwyr ar eu ffordd tuag at fynydd Etna pan darodd sawl un ohonyn nhw i mewn i’w gilydd ar ôl i botel ddŵr fynd yn sownd yn olwyn y Cymro.

Cwblhaodd e’r cymal ond erbyn hynny, roedd e wedi ildio mwy na 12 munud i’w wrthwynebwyr wrth iddo gyrraedd y llinell derfyn.