Mae’r Cymro Geraint Thomas wedi codi i’r trydydd safle yn ras feics y Giro d’Italia ar ôl gorffen yr ail gymal yn unfed ar ddeg.

Mae ganddo fe fantais o 26 eiliad o hyd dros Simon Yates, a mwy na munud dros Vincenzo Nibali, Steven Kruijswijk a Jakob Fuglsang.

Cyflymodd y pac ar ddiwedd y cymal 149km o Alcamo i Ddyffryn y Temlau ond fe dorrodd yr arweinwyr yn glir yn y 1,500 metr olaf.

Diego Ulissi enillodd y cymal, a Peter Sagan yn ail.

Filippo Ganna sydd ar frig y Giro d’Italia, a Joao Almeida yn ail tra bod Geraint Thomas 23 eiliad oddi ar y brig.