Mae Jeff Evans, y Cymro Cymraeg o Drefach sydd wedi ymddeol ar ôl ugain mlynedd, yn dweud bod ei yrfa’n dyfarnu ar y lefel sirol dosbarth cyntaf wedi bod yn “annisgwyl”.
Mae’r tymor criced byr yn dod i ben heddiw ar Ddiwrnod Ffeinals cystadleuaeth ugain pelawd y Vitality Blast yn Edgbaston, ond fe ddyfarnodd y gŵr o Gwm Gwendraeth ei gêm olaf wrth i Wlad yr Haf herio Swydd Gaerloyw rai wythnosau’n ôl ym Mryste.
Dyfarnu yn y cynghreiriau lleol oedd e cyn symud yn ei flaen i’r rhestr eilyddion dosbarth cyntaf ac yna i restr lawn amser y dyfarnwyr dosbarth cyntaf yn 1999.
Ac yntau’n 65 oed erbyn hyn, mae rheolau Bwrdd Criced Cymru a Lloegr yn nodi bod rhaid iddo ymddeol, a hynny ar ôl i ddau ddyfarnwr arall, George Sharp a Peter Willey, fynd â’u cyflogwyr i’r llys yn aflwyddiannus rai blynyddoedd yn ôl yn y gobaith o gael parhau i ddyfarnu y tu hwnt i’r oedran ymddeol.
‘Gyrfa dda’
Ond mae Jeff Evans yn ddigon hapus i orffen ar ôl cael “gyrfa dda”, meddai wrth golwg360.
“Yn bersonol, fi’n meddwl bo fi wedi cael gyrfa dda, wedi cael ugain mlynedd yn dyfarnu ar y lefel ucha’ yn y wlad.
“Er bo fi ddim wedi gwneud gemau prawf yn y canol, fi wedi bod dros y byd i gyd ar deithiau criced a fi’n credu bod e’n amser, ta faint mor ffit dw i’n meddwl ydw i – a fi yn trio cadw’n weddol ffit ac yn gwneud rhywbeth bob dydd – ond mae’n amser nawr i roi cyfle i’r bois ifanc sy’n dod trwyddo. Me rhaid bo nhw yn cael y cyfle gaetho i ryw ugain mlynedd yn ôl.”
Ac mae’n dweud y bydd ganddo fe hen ddigon o atgofion melys o ddyfarnu ar y lefel sirol, gan gynnwys sawl achlysur cofiadwy yn Lord’s, cartref criced Lloegr.
“Fi’n cofio ’neud gêm tymor diwetha’ yn Lord’s, a dyna’r crowd fwya’ mewn gêm ugain pelawd erioed yn y wlad,” meddai.
“Roedd rhyw 28,000 mewn yn Lord’s, oedd hi’n llawn dop ’na ac o’ch chi’n ffaelu clywed dim byd. Roedd yr awyrgylch yn wych, Middlesex yn chwarae Surrey ar nos Iau!
“Pan y’ch chi’n ’neud gemau fel ’na, maen nhw’n dueddol o aros yn eich meddwl.
“Dros y blynyddoedd, mae ambell gêm yn y Bencampwriaeth sydd wedi mynd yn agos a chi’n meddwl, ‘Duw, ’na gêm agos oedd honna’ neu ‘gêm fach nèt oedd honna!’
“Ry’ch chi wastod yn cofio’ch gêm gynta’. O’n i lan yn Headingley a chredwch neu beidio, roedd Steffan Jones yn chwarae – Steffan o Langennech! Fi’n gyfarwydd iawn â Steffan wrth gwrs.”
Llwyddiant ‘annisgwyl’
Ac yntau’n un o lond dwrn yn unig o ddyfarnwyr sirol sydd heb chwarae ar y lefel honno, mae’n dweud bod y llwyddiant mae e wedi’i gael wedi bod yn “annisgwyl”.
“Yn y dyddiau ’ny, doedd dim pobol oedd ddim wedi chwarae’n broffesiynol yn cael lot o gyfleoedd i fynd i ddyfarnu ar y lefel ucha’,” meddai.
“Dim ond rhyw ddau ar y pryd – Nigel Plews a Don Oslear – oedd wedi symud ymlaen a chyrraedd y nod lle o’n nhw’n dyfarnu’n broffesiynol.
“Roedd e’n annisgwyl iawn bo fi wedi cael ’y newis i symud ymlaen, gynta’ i gyd ar y rhestr o eilyddion, y Reserve List, ac ar ôl rhyw ddwy flynedd fynna, gaetho i’n benodi i’r rhestr yn llawn amser.
“Fi’n edrych nôl ar yrfa le fi wedi bod mor lwcus. Mae’r gêm wedi mynd â fi dros y byd i gyd. Fi wedi mwynhau e i gyd.”