Mae’r ymladdwr Brett Johns, y Cymro Cymraeg o Bontarddulais, wedi cytuno i ymuno â sefydliad crefftau ymladd cymysg Bellator.

Yn ôl neges ar ei dudalen Instagram, mae’n ymuno â’r sefydliad ar ôl methu â dod i gytundeb gyda’r UFC ynghylch ei ddyfodol.

Enillodd e dair ornest o’r bron ar ddechrau ei yrfa yn yr UFC ond fe gollodd e ddwy ornest o’r bron yn erbyn Aljamain Sterling a Pedro Munhoz.

Mae e wedi diolch i’r UFC, gan ddweud nad yw’n dal dig ond fod ganddo resymau ariannol am ymuno â Bellator.

‘Llwybr gwahanol’
“Dw i wedi dewis cymryd llwybr gwahanol yn fy ngyrfa, fel ymladdwyr mae ein hiechyd yn y fantol bob tro rydyn ni’n llofnodi ar y llinell a dw i’n iawn gyda hynny,” meddai Brett Johns mewn neges ar Instagram.
“Ond dw i yma i gael fy nhalu yr hyn dw i’n credu sy’n deg.

“Fy ngornest ddiwethaf oedd yr olaf ar fy ail gytundeb gyda’r UFC.

“Ro’n i wedi derbyn gornest ar Dachwedd 7 yn Las Vegas yn erbyn gwrthwynebydd anodd (15-1).

“Os ydych chi wedi dilyn fy ngyrfa, byddwch chi’n gwybod y byddwn i’n ymladd yn erbyn unrhyw ddyn ar y blaned.

“Ond doedden ni ddim yn gallu cytuno ar ffigwr oedd yn iawn i’r ddwy ochr ar y cytundeb newydd.

“Mae gwerth saith gornest, pum buddugoliaeth a dwy golled yn erbyn bois gorau’r adran, wedi cyrraedd rhif 13, yr ail dorrwr croth y goes yn hanes yr UFC ac wedi ennill dwy ornest o’r bron erbyn hyn yn erbyn talentau addawol yn wahanol i’r ddau ohonom.

“A busnes yw hynny, dim byd personol, dyw e erioed wedi bod yn bersonol o’m rhan i.

“Dw i’n dymuno’n dda i’r UFC ar gyfer y dyfodol.”