Mae amheuon ynghylch argaeledd Aaron Ramsey wrth i dîm pêl-droed Cymru baratoi i herio Lloegr, Gweriniaeth Iwerddon a Bwlgaria.

Mae tîm Juventus wedi mynd i mewn i gwarantîn yn sgil y coronafeirws.

Bum niwrnod yn unig cyn i Gymru herio Lloegr, daeth cadarnhad fod dau aelod o staff Juventus wedi profi’n bositif ar gyfer y feirws.

Serch hynny, mae disgwyl i gêm y clwb yn erbyn Napoli yn Serie A fynd yn ei blaen heno (nos Sul, Hydref 4).

Mae Cymru’n aros i glywed beth yw sefyllfa’r Cymro yn y garfan.