Mae Ryan Giggs, rheolwr tîm pêl-droed Cymru, wedi bod yn canu clodydd Marcus Rashford, ymosodwr Lloegr, cyn i’r ddwy wlad herio’i gilydd yr wythnos hon.

Roedd Giggs yn rheolwr cynorthwyol i Louis van Gaal ym Manchester United pan oedd Rashford ar gyrion y tîm cyntaf yn Old Trafford.

Yn ôl Giggs, mae Rashford yn anelu i fod “y gorau”.

Sgoriodd yr ymosodwr, oedd yn 18 oed ar y pryd, ddwy gôl yn ei gêm gyntaf i’r clwb yng Nghynghrair Europa yn 2016.

“Mae Marcus yn ddawnus,” meddai Giggs ar drothwy’r gêm fawr yn Wembley nos Iau (Hydref 8).

“Ar ôl gweithio gyda fe, dw i wedi gweld y feddylfryd wych sydd gyda fe.

“Mae e’n chwaraewr sydd eisiau gwella a bod y gorau.

“Mae e’n sylweddoli y bydd rhaid iddo fe wella fel pob chwaraewr ifanc.

“Mae e’n un o nifer o chwaraewyr Lloegr y bydd rhaid i ni gadw llygad arnyn nhw yn y rheng flaen os ydyn nhw’n chwarae.”