Mae Steve Cooper, rheolwr tîm pêl-droed Abertawe, wedi datgelu iddo dderbyn neges destun gan Julian Winter, y prif weithredwr, cyn y gêm yn erbyn Millwall ddoe (dydd Sadwrn, Hydref 4) yn gofyn iddo beidio â dewis Kristoffer Peterson.

Dywedodd Cooper y byddai wedi cynnwys yr asgellwr ar y fainc, ond mae e ar drothwy trosglwyddiad i Fortuna Düsseldorf ac fe gyfaddefodd y rheolwr nad yw’n gwybod beth yn union yw’r sefyllfa ar hyn o bryd.

Treuliodd yr asgellwr y tymor diwethaf ar fenthyg yn Utrecht yn yr Iseldiroedd ond roedd hi’n ymddangos y byddai’n cael ei gyfle yng ngharfan yr Elyrch y tymor hwn.

Mae Cooper wedi bod yn pwysleisio ers i Winter olynu’r cadeirydd Trevor Birch, sydd wedi symud at Spurs, nad oedd e eisiau colli chwaraewyr yn ystod y ffenest drosglwyddo bresennol, a’i fod e am gryfhau’r garfan.

Ond mae’r digwyddiadau diweddaraf yn debygol o achosi tyndra rhwng y rheolwr a’r rhai sydd mewn grym yng nghoridorau Stadiwm Liberty.

“Do’n i ddim eisiau colli neb,” meddai Cooper ar ôl y gêm.

“Rydyn ni ar drothwy’r cyfnod prysuraf erioed yn y Bencampwriaeth.

“Ces i neges gan Julian Winter y bore yma yn gofyn am iddo [Peterson] gymryd rhan.

“Roedd e yn y garfan ac fe fyddai fwy na thebyg wedi bod ar y fainc, a dyna’r cyfan dw i’n ei wybod am y peth.”

Andre Ayew yn ‘embaras’

Yn y cyfamser, mae Steve Cooper wedi amddiffyn yr ymosodwr Andre Ayew, ar ôl i Gary Rowett, rheolwr Millwall, ei gyhuddo o fod yn “embaras”.

Sgoriodd Jake Bidwell a Ben Cabango i’r Elyrch yn yr ail hanner i ddod â rhediad di-guro Millwall i ben yn y Bencampwriaeth, ond un o brif bynciau trafod y gêm oedd tacl flêr ar Ayew ar ôl 57 munud.

Roedd modd clywed Ayew yn sgrechian wrth iddo gael ei lorio oddi ar y bêl gan Jake Cooper, a’r awgrym oedd ei fod e wedi cael ei daro gan benelin ei wrthwynebydd.

Doedd y camerâu ar y we ddim wedi dal y digwyddiad, ond fe gafodd ei weld ar gyfrifiaduron yr hyfforddwyr, yn ôl awgrym Gary Rowett.

“Dw i wedi’i wylio fe’n ôl,” meddai rheolwr Millwall.

“Roedden nhw’n meddwl mai penelin amlwg oedd e ond wrth iddo fe fynd ar draws Coops, mae e’n rhedeg i mewn i’w fraich.

“Fyddai’r un cyswllt ddim yn gwneud i rywun rolio ar y llawr fel hyn.

“Does dim lle i hynny yn y gêm.

“Ro’n i’n meddwl ei fod e’n eitha’ embaras. Doedd dim marc arno fe.”

Amddiffyn Andre Ayew

Ond nid felly y gwelodd Steve Cooper y digwyddiad, ac mae e wedi amddiffyn ei chwaraewr er nad yw’n cyhuddo Jake Cooper o’i daro’n fwriadol.

“Dw i wedi’i weld e’n ôl, ac mae’n sicr wedi’i ddal e,” meddai.

“Dw i ddim yn meddwl y byddai’r un ohonom am gael braich yn syth i’r wyneb.

“A oedd e’n fwriadol neu beidio, dw i ddim yn gwybod.”