Mae disgwyl i hyd at 45,000 o bobol ‘ddod ynghyd’ o bob cwr o’r byd i gwblhau 26.2 milltir fel rhan o Farathon Llundain – ond dim ond athletwyr élit fydd yn rhedeg y llwybr go iawn yng nghanol y ddinas.

Bu’n rhaid gohirio’r marathon yn sgil y coronafeirws ym mis Ebrill, ond daeth penderfyniad i ganslo’r digwyddiad gan nad yw’n ddiogel o hyd i bobol ddod at ei gilydd yn gorfforol.

Bydd pobol yn gallu cwblhau’r marathon yn eu hardaloedd eu hunain unrhyw bryd yn ystod y dydd, gyda thrigolion o 109 o wledydd eraill yn cymryd rhan, a does dim rhaid iddyn nhw gwblhau’r 26.2 milltir i gyd ar yr un pryd.

Y ras eleni yw’r 40fed erioed ac yn ôl y trefnwyr, mae torri’r digwyddiad i fyny’n bellteroedd llai yn mynd i alluogi mwy o bobol i gymryd rhan nag arfer.

Ond mae disgwyl glaw trwm mewn rhannau helaeth o wledydd Prydain yn ystod y dydd, gyda rhybuddion yn eu lle yng Nghymru, dwyrain yr Alban a Lloegr.

Record 100% rhedwr o Gaerdydd yn parhau

Mae Jeffrey Aston, ymgynghorydd technoleg gwybodaeth 72 oed o Gaerdydd, yn un o ddeg dyn sydd wedi rhedeg ym mhob marathon ers y dechrau.

Fe fydd e’n cwblhau’r marathon mewn cylchoedd y ddwy filltir yr un, gan redeg heibio i fflat ei ffrind tuag at City Hospice.

Fe fydd e’n codi arian at yr hosbis lle cafodd ei wraig ofal cyn colli ei brwydr yn erbyn canser yn 2016.