Aberystwyth 1-2 Y Barri

Ers i’r Barri ddychwelyd i Uwchgynghrair Cymru yn 2017, nid oedd Aberystwyth wedi ennill na hyd yn oed sgorio yn eu herbyn ar Goedlan y Parc cyn heddiw.

Maent bellach wedi rhwydo yn eu herbyn ond yn parhau i aros am y fuddugoliaeth gyntaf wedi i ddeg dyn y Barri daro nôl i gipio’r tri phwynt yn y canolbarth.

Wedi hanner cyntaf di sgôr, fe aeth Aber ar y blaen yn gynnar yn yr ail hanner wrth i Steff Davies gadw’i gydbwysedd i sgorio wrth ddisgyn yn y cwrt cosbi.

Coch i Green

Daeth trobwynt y gêm ar yr awr wrth i Clayton Green gael ei anfon o’r cae am dacl flêr ar Miles John. Rhoddodd hynny hwb i’r Barri rhywsut ac o fewn deg munud, roedd deg dyn yr ymwelwyr ar y blaen.

Sgoriodd David Cotterill ei gôl gyntaf dros y clwb ganol wythnos ond cyfle cyn chwaraewr Cymru i greu a oedd hi heddiw wrth i’w gic rydd gael ei phenio i mewn gan Kayne McLaggon.

A Cotterill arall a gafodd y gôl fuddugol ychydig funudau’n ddiweddarach; cefnder David, Jordan, yn rhwydo’n daclus ar ôl cael ei ryddhau gan McLaggon.

*

Derwyddon Cefn 0-5 Cei Connah

Pan ymwelodd Cei Connah â’r Graig i wynebu Derwyddon Cefn yn 2009, y tîm cartref a aeth â hi o chwe gôl i ddim. Mae pethau wedi newid tipyn ers hynny a doedd fawr o syndod mewn gwirionedd gweld y Nomadiaid yn ennill o sgôr digon tebyg y tro hwn.

Wilde 2-3 Morris

Er i’r Derwyddon fod yn y gêm am gyfnodau yn yr hanner cyntaf, dim ond un tîm a oedd ynddi wedi’r egwyl ac roedd hi’n gystadleuaeth ddifyrrach rhwng Mike Wilde a Callum Morris i weld pwy fyddai’n gorffen y gêm gyda hatric.

Wilde a sgoriodd y gyntaf a’r bumed ond roedd tair i Morris rhyngddynt, felly’r chwaraewr canol cae a gafodd adael y gêm gyda’r bêl. Os yw hynny’n digwydd yn y Cymru Premier sydd yn gwestiwn arall!

*

Pen-y-bont 2-1 Y Drenewydd

Anfonwch y tabledi salwch mynydd i Ben-y-bont, mae tîm Rhys Griffiths yn yr hanner uchaf ar ôl trechu’r Drenewydd yn Stadiwm SDM Glass brynhawn Sadwrn.

Rhoddodd Nick Rushton yr ymwelwyr ar y blaen yn yr hanner cyntaf ond yn ôl y daeth Pen-y-bont i gipio’r tri phwynt a chodi i’r pumed safle yn y tabl.

“Beth wnei di ar ôl gadael coleg?”

“Beth wnei di ar ôl gadael coleg?” Wel… symud i Ben-y-bont a sgorio yn erbyn y Drenewydd, wrth gwrs! Mael Davies a Sam Snaith a gafodd goliau’r tîm cartref yn yr ail hanner, goliau cyntaf dau gyn chwaraewr Met Caerdydd i’w clwb newydd.

Dechrau setlo

Teg dweud i lwc fod ar ochr Pen-y-bont y tymor diwethaf. Ar ôl treulio rhan helaeth o’r tymor yn safleoedd y gwymp, fe godon nhw dros Gaerfyrddin yn y rownd olaf o gemau cyn i Covid-19 ddod a rhewi’r tabl  a dod â’r tymor i ben yn gynnar.

Mae’r arwyddion cynnar yn awgrymu y bydd hwn yn dymor mwy cyfforddus iddynt er bod pethau’n agos iawn yng nghanol y tabl o hyd.

*

Y Bala 1-2 Hwlffordd

Mae’r Bala eisoes yn colli tir ar y timau mawr ar y brig yn dilyn colled annisgwyl yn erbyn Hwlffordd ar Faes Tegid brynhawn Sadwrn.

Ac i wneud pethau’n waeth i dîm Colin Caton, fe ddigwyddodd hynny ar ôl iddynt fynd ar y blaen gyda chic o’r smotyn Chris Venables.

Pas y penwythnos

Roedd yr ymwelwyr o Sir Benfro yn gyfartal erbyn hanner amser diolch i chwip o gôl, Danny Williams yn anelu peniad deheuig dros Alex Ramsay yn y gôl wedi pas letraws hyfryd i’w gyfeiriad gan y cefnwr de, Dan Summerfield. Pas y penwythnos, heb os.

Iawn Tom Daley?

Bu rhaid aros tan y pedwerydd munud amser a ganiateir am anafiadau ar ddiwedd y gêm am y gôl fuddugol. Collodd Steve Lesley’r meddiant i’r Bala yn hanner Hwlffordd ar ôl camgymryd gêm bêl droed am gystadleuaeth blymio.

Anwybyddwyd ei gymnasteg gan y dyfarnwr, gwrthymosododd Hwlffordd yn chwim a chrymanodd Jack Wilson ergyd hyfryd i gefn y rhwyd o ochr y cwrt cosbi i ennill y gêm.

Dyma fuddugoliaeth gyntaf y tymor i’r Adar Gleision ac maent yn codi o safleoedd y gwymp, i’r degfed safle.

*

Y Seintiau Newydd 10-0 Y Fflint

Na, nid typo mohono, deg gôl i ddim a orffennodd hi wrth i’r Seintiau Newydd groesawu’r Fflint i Neuadd y Parc brynhawn Sadwrn. Hwn a oedd y cyfarfyddiad cyntaf rhwng y ddau dîm yn y gynghrair ers 1997 ac mae’n debyg y bydd y Fflint yn ddigon hapus i aros tair blynedd ar hugain arall am y nesaf yn dilyn y fath grasfa!

Mae gan reolwr y Fflint, Niall McGuinness, bellach y record anffodus o fod wedi colli o ddeg i ddim yn erbyn y Seintiau ar ddau achlysur; ef a oedd wrth y llyw pan gollodd Y Rhyl o’r un sgôr yng Nghroesoswallt yn 2016 hefyd.

Brethyn gorau

Pan mae’r Seintiau yn sgorio llond trol o goliau, mae Greg Draper fel rheol ymysg y sgorwyr. Doedd fawr o syndod felly gweld blaenwr rhyngwladol Seland Newydd yn rhoi pump yn y bag winwns yn y fuddugoliaeth hon.

Y drydedd o’r pump, yn gynnar yn yr ail hanner, a oedd yr un fwyaf arwyddocaol. Honno a oedd gôl rhif 154 Draper i’r Seintiau a’r gôl sy’n golygu mai ef bellach yw’r prif sgoriwr yn hanes y clwb, yn torri record Mike Wilde.

Jon Routledge (2), Ryan Harrington, Louis Robles a Kwame Boateng a gafodd y lleill ar brynhawn i’w anghofio i’r Fflint, sydd yn llithro i hanner isaf y tabl. Mae’r Seintiau ar y llaw arall yn dynn ar sodlau Cei Connah tua’r brig.

Bydded goleuni

Fe all y Seintiau godi i’r brig ddydd Llun os fydd y gynghrair yn penderfynu bod canlyniad eu gêm yn y Bala nos Fercher yn sefyll (achos mae hi’n cymryd pum diwrnod i wneud y penderfyniadau yma wyddoch chi). Daeth y gêm honno i ben gyda’r sgôr yn gyfartal pan ddiffoddodd llifoleuadau Maes Tegid gyda dau funud o’r naw deg yn weddill.

Un a fydd yn gobeithio y bydd y gêm yn aros yn y llyfrau hanes yw’r gŵr o Borthmadog, Leo Smith, wedi iddo sgorio gôl y tymor hyd yma ynddi.

*

Met Caerdydd 0-3 Caernarfon

Caernarfon a aeth â hi yn erbyn Met Caerdydd o flaen camerâu Sgorio ar noson wlyb yng Nghampws Cyncoed nos Sadwrn.

Roedd y ddau dîm yn dioddef gyda rhestr hir o anafiadau ond y Cofis a lwyddodd i ymdopi orau, yn profi’n rhy gryf yn yr ail hanner wedi hanner cyntaf digon agos.

Dwy gic o’r smotyn

Dwy gic o’r smotyn a oedd prif stori’r hanner cyntaf, Met yn methu un a Chaernarfon yn sgorio.

Roedd Darren Thomas yn hynod ffodus i aros ar y cae i Gaernarfon ar ôl ildio cic o’r smotyn am drosedd wael ar Eliot Evans. Evans a gymerodd y gic hefyd ond cafodd ei harbed gan Josh Tibbetts, a dreuliodd weddill y gêm yn dynwared plentyn yn ceisio dal pili pala.

Sion Bradley a enillodd un yr ymwelwyr cyn codi ar ei draed i’w sgorio.

Cluniad clyfar!

Bu rhaid aros tan y deg munud olaf am weddill y goliau, gyda Darren Thomas yn sgorio un a chreu un.

Sgoriodd ei gôl ef yn dilyn rhediad unigol da cyn croesi i Cai Jones ar gyfer y llall, gyda hwnnw’n taflu ei hun trwy’r glaw fel rhyw bysgodyn i wyro’r bêl i gefn y rhwyd gyda’i glun. Anghonfensiynol ond effeithiol!

Ond dyna ddisgrifio Caernarfon i’r dim, ac mae’r effeithiolrwydd hwnnw yn eu rhoi’n bedwerydd yn tabl wedi chwe gêm.