Mae Abertawe wedi dal ati gyda’u llwyddiant ar gychwyn tymor Pencampwriaeth Sky Bet wrth guro Millwall 2-1 gartref.

Mewn ail hanner cyffrous, sgoriodd yr amddiffynwyr Jake Bidwell a Ben Cabango dros yr Elyrch, gyda’r Cymro Tom Bradshaw yn dod â’r sgôr yn gyfartal i Millwall am rai munudau yn y canol.

Fe fydd Abertawe yn treulio’r toriad rhyngwladol yn y pedwerydd safle ar ôl ennill 10 pwynt allan o 12 posibl, wrth i’r Llewod golli am y tro cyntaf y tymor yma.