Mae Wrecsam wedi cael cychwyn da i’w tymor newydd gyda buddugoliaeth 2-1 dros Boreham Wood ar y Cae Ras y pnawn yma.

Fe ddisgleiriodd y gôl-geidwad Rob Lainton yn gynnar yn y gêm gydag arbediad dwbl i rwystro Kabongo Tshimanga rhag sgorio gôl i’r ymwelwyr yn y trydydd munud.

Aeth y Dreigiau Coch ar y blaen ar y 27ain munud gyda gôl gan eu chwaraewr newydd Reece Hall-Johnson. Ymatebodd Boreham Wood ar yr awr wrth i Keiran Murtagh benio cic rydd Sorba Thomas i mewn.

Ddeng munud wedyn, fodd bynnag, roedd Wrecsam wedi sgorio eto gydag ergyd wych 20-llath gan Luke Young mewn cic rydd a sicrhau’r fuddugoliaeth.