Llwyddodd Caerdydd i ddal eu tir mewn gêm ddi-sgôr yn Blackburn y pnawn yma er gwaetha’r ffaith eu bod i lawr i 10 dyn.

Ar ôl perfformiad cadarn drwy’r rhan fwyaf o’r gêm, daeth ergyd i’w gobeithion ar y 69fed munud, pan gafodd Lee Tomlin ei anfon o’r cae ar ôl cael ei gosbi am yr ail waith mewn 11 munud.

Wrth ail-grwpio fe wnaethon nhw lwyddo i amddifadu Blackburn o unrhyw gyfleoedd am weddill y gêm.