Llwyddodd Casnewydd i guro Mansfield 2-1 gyda chic o’r smotyn ar yr 88fed munud gan Matty Dolan.
Roedd yn ymddangos fod Stephen McLaughlin wedi selio buddugoliaeth i Mansfield ar ôl ergyd nerthol wedi 69 munud.
Daliodd Casnewydd i fyny â nhw fodd bynnag gyda 12 munud ar ôl wrth i Scott Tyne sgorio. Wrth i’r diwedd nesáu croesodd yr eilydd Padraig Amond tuag at y gôl ac fe wnaeth y bêl daro Rollin Menayese.
Dyfarnwyd bod y bêl wedi ei daro ar ei law pan oedd o fewn y blwch, gan roi’r cyfle i Matty Dolan gipio’r ail gôl i’r ymwelwyr.
Drwy hyn mae Casnewydd yn dal heb gael eu curo yng yng Nghynghrair Dau Sky Bet y tymor yma o dan eu rheolwr llwyddiannus Mike Flynn.