Mae cyn-weithiwr dur o Gasnewydd a symudodd i fyw i Awstralia 40 mlynedd yn ôl newydd roi’r gorau i chwarae pêl-droed cystadleuol yn 80 oed.

Ers iddo symud i Wollongong yn New South Wales, mae Peter Webster ynghyd â’i dri mab wedi bod yn chwarae’n rheolaidd i glwb pêl-droed Figtree yno.

“Dw i’n meddwl fod yr amser wedi dod imi roi’r gorau iddi,” meddai. “Fe ddaliaf afael ar yr esgidiau a chicio o gwmpas ond dw i ddim am chwarae mewn cystadleuaeth go-iawn.”

Dywedodd nad oedd arno eisiau i chwaraewyr eraill fod yn rhoi amser hawdd iddo oherwydd ei oed.

“Dw i ddim yn hoffi’r syniad fod pobl yn dweud nad ydyn nhw am fy nhaclo i oherwydd fy mod i’n 80. Os dw i’n cael y bêl dw i eisio eu gweld nhw’n fy nhaclo i. Ac os ydw i’n cael fy nharo i lawr, mae hynny’n rhan o’r gêm.”

Dywedodd y byddai ei wraig Moira yn falch o’i weld yn ymddeol.

“Roedd hi’n meddwl fy mod i wedi rhoi’r gorau iddi pan wnaethon ni symud yma, gan fy mod i’n 41 oed erbyn hynny,” meddai. “Ro’n i’n meddwl wrth imi adael Cymru a Casnewydd y byddai popeth drosodd bryd hynny.”