Mae Geraint Thomas yn edrych ymlaen yn arw at y Giro d’Italia, sy’n cychwyn heddiw ac a fydd yn parhau tan 25 Hydref.

Ar ôl dod yn ail yn ras y Tirreno-Adriatico fis diwethaf, daeth Geraint Thomas yn bedwerydd ym Mhencampwriaeth Treialon Amser y Byd wythnos diwethaf yn yr Eidal.

Cred Geraint Thomas bod hyn yn rhoi mantais iddo wrth ddechrau’r Giro d’Italia.

Bydd holl gamau’r ras yn cael eu darlledu ar S4C, gyda’r sylwebaeth yn dechrau am un o’r gloch brynhawn heddiw (Hydref 3).

“Edrych ymlaen”

Wrth siarad ar raglen Seiclo S4C, dywedodd Geraint Thomas iddo “deimlo ei fod mewn siâp da,” ac yn “edrych ymlaen at fod yn rhan o’r Giro nawr.”

“Aeth y Tirreno-Adriatico a’r Treialon Amser yn dda, felly gobeithio y byddaf yn gallu parhau fel hyn.

“Mae cwrs y Giro yn heriol, mae ‘na fynyddoedd anodd yn yr wythnos olaf a gallai’r tywydd chwarae rhan yn yr her.

“Y treialon amser yw un o fy nghryfder, felly byddaf yn trio beicio mor gyflym â phosib a gobeithio gallu ennill amser trwy hyn.

“Y peth yw, gallai’r tywydd fod yn hollol wahanol yn y mynyddoedd yn niwedd Hydref, felly efallai bydd mwy o heriau na’r Tour de France ym mis Gorffennaf, dweder,” esboniodd Geraint Thomas.

“Ar ddiwedd y dydd, mae’r ras yn cael ei hennill a’i cholli yn y mynyddoedd.

“Mae gen i dîm arbennig o’m cwmpas.”

Cyfle i adfer ei hun ar ôl ras 2017

Mae Geraint Thomas yn arwain tîm Ineos Grenadiers yn y Giro d’Italia am y tro cyntaf ers 2017, pan fu rhaid iddo dynnu allan o’r ras ar ôl gwrthdaro â beic modur.

“Dyna sydd wedi bod yn fy nghael i allan o’r gwely dros y chwe wythnos ddiwethaf,” ychwanegodd.

“Gwybod fod popeth wedi mynd o’i le ychydig o flynyddoedd yn ôl, gobeithio y gallai gywiro digwyddiadau 2017.”

Bydd posib gwylio holl gymalau’r ras ar raglen Seiclo S4C, yn ogystal â gwylio’r uchafbwyntiau bob nos ar S4C, S4C Clic ac iPlayer.