Bydd Wrecsam yn herio Boreham Wood yn eu gêm gyntaf o’r tymor newydd y pnawn yma am 3:00 (dydd Sadwrn, Hydref 3).

Dyma’r gêm gyntaf er i’r clwb gyhoeddi bod dau o sêr Hollywood, Ryan Reynolds a Rob McElhenney â diddordeb mewn buddsoddi yn y clwb.

Mewn datganiad ar Fedi 23 dywedodd y clwb bod 1,223 o aelodau wedi pleidleisio yn y cyfarfod cyffredinol arbennig.

Y gred yw bod y ddau eisiau buddsoddi £2m yn y clwb ar unwaith, ac mae sïon y gallai’r clwb fod yn destun rhaglen deledu yn dilyn ei hynt a’i helynt.

Gêm anodd i Wrecsam

Allai Wrecsam ddim wedi gofyn am gêm llawer anoddach i ddechrau’r tymor.

Roedd gan Boreham Wood yr ail amddiffyn gorau yn y gynghrair y tymor diwethaf, gan ildio dim ond un gôl yn fwy na’r pencampwyr Barrow.

Collodd y tîm yn rownd gynderfynol y gemau ail gyfle yn erbyn Harrogate, aeth ymlaen i ennill dyrchafiad.

Dim ond unwaith chwaraeodd Wrecsam yn erbyn Boreham Wood, wrth i’r tymor ddod i ben yn gynnar.

Aeth Wrecsam ar y blaen o ddwy gol i ddim yn y gêm honno, ond daeth Boreham Wood yn ôl i sicrhau gem gyfartal.