Bydd 660 o feiciau yn cael eu dosbarthu i ysgolion Caerdydd er mwyn annog plant a phobol ifanc i feicio.

Bwriad cynllun Fflyd Beiciau’r Ysgol yw rhoi cannoedd o feiciau i ysgolion er mwyn i ddisgyblion eu defnyddio ar gyfer hyfforddiant beicio yn yr ysgol.

Mae’r cynllun wedi ei ariannu gan Lywodraeth Cymru, ac mae’n rhan o bartneriaeth rhwng Cyngor Caerdydd, Beicio Cymru a British Cycling.

Manylion y cynllun

Bydd cam cyntaf y cynllun wedi’i gwblhau erbyn diwedd mis Hydref, gyda 32 o setiau o feiciau yn cael eu danfon i ysgolion cynradd ac uwchradd y ddinas.

Bydd pob ysgol gynradd yn derbyn 20 beic, tra bod ysgolion uwchradd yn derbyn 30 beic disgybl a dau feic athro.

Er mwyn cyflawni ail gam y rhaglen, mae’n fwriad gan y cynllun i ddanfon o leiaf 32 fflyd arall i ysgolion Caerdydd.

Dywedodd y Cynghorydd Caro Wild, Aelod Cabinet Cyngor Caerdydd dros Gynllunio Strategol a Thrafnidiaeth, mai “nod y Cynllun Beiciau Ysgol fydd cynyddu nifer y plant sy’n beicio, drwy ei ymgorffori yng nghwricwlwm yr ysgol.

“Mae gallu beicio’n ddiogel ac yn hyderus yn sgil bywyd ac mae’n hyrwyddo teithio llesol ymhlith plant a phobol ifanc.

“Bydd y newid ymddygiad hwn yn cael effaith gadarnhaol ar eu bywydau a’u dyfodol, gan gynnwys gwella lles corfforol ac emosiynol yn ogystal â lleihau allyriadau er mwyn creu amgylchedd gwyrddach i fyw ynddo.

Gwneud “Caerdydd yn ddinas wych”

Ategodd y Cynghorydd Sarah Merry, Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau: “Mae’r prosiect hwn yn cynnig llu o fanteision cadarnhaol i blant a phobol ifanc yma yng Nghaerdydd, gan gynnwys y cyfle i feicio – efallai am y tro cyntaf – yn ogystal â’r cymorth a’r hyfforddiant sydd eu hangen i helpu plant i ddatblygu sgil newydd a fydd ganddynt wedyn pan fyddant yn oedolion.

“Rydyn ni’n gwybod pwysigrwydd gweithgarwch corfforol a’r cyfraniadau mae’n eu gwneud i hybu iechyd meddwl a chorfforol cadarnhaol.

“Drwy roi cyfleoedd fel hyn i blant a phobl ifanc, mae’n cefnogi ymhellach uchelgais Caerdydd i fod yn Ddinas sy’n Dda i Blant UNICEF, gan helpu i wneud Caerdydd yn ddinas wych i dyfu’n hŷn ynddi,” mynnodd Sarah Merry.

Pwysleisiodd Dan Coast, Swyddog Datblygu Beicio Cymru, mai “dim ond un elfen o’r gwaith y mae Beicio Cymru wedi’i wneud yw’r rhaglen hon i gefnogi newid yn ein harferion trafnidiaeth a rhoi cyflwyniad cychwynnol gwych i feicio, a chreu mwy o bencampwyr beicio fel Elinor Barker a Geraint Thomas y dyfodol!”