Erbyn hyn, mae’r cae pob tywydd newydd Plas Ffrancon ar agor i’r cyhoedd ac yn ychwanegiad gwerthfawr i’r gymuned leol.

Er mai’r bwriad gwreiddiol oedd cwblhau’r gwaith adnewyddu dros gyfnod o chwe wythnos, yn debyg iawn i lawer prosiect cymunedol arall, roedd rhaid bod yn amyneddgar a disgwyl ychydig yn hirach.

Yn ôl y rheolwr, Ffion Roberts, mae posib i lawer un fanteisio ar yr adnodd newydd hwn.  “Mae’r cae pob tywydd ar gael i dimau pêl-droed lleol yn ardal Dyffryn Ogwen ac ardaloedd eangach i’w logi. Mae defnydd hefyd yn cael ei wneud o’r cae gan Ysgol Dyffryn Ogwen yn ystod oriau ysgol.”

Er nad oedd modd dathlu gydag agoriad swyddogol, mae’r cae wedi profi i fod yn boblogaidd iawn hyd yn hyn.

“Mi’r oedden ni wedi bwriadu cael diwrnod agored ar gyfer y cae,” eglura Ffion Roberts, “ond hefo popeth sydd yn mynd ymlaen ar hyn o bryd, y prif beth oedd dim ond gwneud yn siŵr bod y cae ar agor.”

Mae modd llogi’r cae drwy gysylltu’n uniongyrchol gyda Plas Ffrancon. Ewch amdani!