Byddai diswyddo bron i 100 o weithwyr mewn canolfannau hamdden yng Nghasnewydd yn niweidio iechyd meddyliol a chorfforol trigolion yr ardal, yn ôl un undeb.

Dyma’r neges gan undeb gwasanaethau cyhoeddus, UNSAIN Cymru, sydd yn dweud bod peryg i 97 o’u gweithwyr gael eu diswyddo.

Mae Casnewydd Fyw, y grŵp sy’n rhedeg canolfannau hamdden, sinemâu a theatrau’r dref, wedi dechrau proses ymgynghori gydag undebau.

Mae disgwyl i’r gweithwyr gael eu diswyddo ym mis Ionawr.

Bydd colli cymaint o swyddi yn peryglu dyfodol gwasanaethau hamdden yng Nghasnewydd, yn ôl undeb UNSAIN.

“Cymaint yn y fantol”

Mae’r undeb yn galw ar Gyngor Casnewydd i ymyrryd ar frys er mwyn sicrhau cyllid ychwanegol i warchod y swyddi a sicrhau na fydd safon y gwasanaethau yn dirywio.

Dyweda Peter Garland, ysgrifennydd cangen UNSAIN yng Nghasnewydd: “Rydym am ddod allan o gyfnod clo Covid fel cymuned fwy unedig.

“Nid yw hynny am ddigwydd os nad oes gennym y gwasanaethau cyhoeddus sydd eu hangen ar y dref.

“Mae cyllid gwasanaethau hamdden wedi eu niweidio gan y cyfnod clo, ond byddai’n gwbl anghywir diswyddo gweithwyr diwyd ar amser pan fydd angen canolfannau hamdden, sinemâu a theatrau arnom er mwyn cadw’n hapus ac iach.

“Bydd colli swyddi yn ystod y Nadolig yn boenus i nifer o deuluoedd yng Nghasnewydd, ac mae’n annhebygol bod swyddi eraill ar eu cyfer,” ychwanega Peter Garland.

“Mae cymaint yn y fantol o golli’r swyddi hyn, ac mae’n rhaid gweithio gyda’n gilydd er mwyn achub gwasanaethau hamdden Casnewydd.”

Mae UNSAIN yn cydnabod pwysigrwydd y cyllid ychwanegol sydd wedi cael ei gynnig gan Lywodraeth Cymru i’r diwydiant hamdden yn ystod y pandemig.

Mae golwg360 wedi gofyn am ymateb gan Gyngor Casnewydd.