Mae Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi pecyn cyllid i gefnogi chwaraeon a hamdden Cymru.

Heddiw (Medi 17) cyhoeddwyd y bydd ‘Cronfa Adfer Chwaraeon a Hamdden’ yn cefnogi’r sector gyda’r heriau parhau sydd wedi deillio o bandemig Covid-19 ac yn sicrhau cynaliadwyedd.

Amcan y gronfa yw darparu cymorth i glybiau a sefydliadau chwaraeon, darparwyd annibynnol a digwyddiadau chwaraeon sydd wedi wynebu heriau sylweddol yn sgil yr argyfwng, ac sydd yn parhau i ddioddef.

Mae’n fwriad i’r gronfa helpu i ysgogi arloesedd mewn canolfannau hamdden awdurdodau lleol ac ymddiriedolaethau hamdden, ac ychwanegu at gronfeydd caledi llywodraethau lleol.

Dafydd Elis-Thomas yn falch o “arwain y ffordd”

Dywedodd Dafydd Elis-Thomas, Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth Llywodraeth Cymru, ei fod yn “falch ein bod yn gallu arwain y ffordd yng Nghymru wrth ddiogelu a chynnal y rhan bwysig iawn hon o’n cymdeithas drwy ddarparu’r pecyn cymorth wedi’i dargedu hwn.

“Rydym hefyd yn cydnabod bod y sector yn wynebu heriau sylweddol yn y tymor hwy – sy’n gysylltiedig ag ailagor yn raddol a chapasiti isel.

“Dw i’n gobeithio y bydd y gronfa hon yn helpu gyda chynllunio ar gyfer y tymor hir a chynaliadwyedd yn y sector chwaraeon a hamdden – sector sy’n chwarae rhan hanfodol yn y gwaith o sicrhau cenedl iach a chorfforol weithgar.”

Chwaraeon Cymru yn diolch i Lywodraeth Cymru

Bydd y pecyn cyllid yn cael ei ddyrannu i Chwaraeon Cymru, a fydd yn ei reoli a ran Llywodraeth Cymru.

Diolchodd Sarah Powell, Prif Weithredwr Chwaraeon Cymru, i Lywodraeth Cymru gan ddweud: “Ar ran y sector hoffwn ddiolch i Lywodraeth Cymru – mae hwn yn becyn o gymorth ariannol hanfodol sydd i’w groesawu’n fawr.

“Mae’n atgyfnerthu’r rôl bwysig y mae chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn ei chwarae wrth helpu i ddatblygu poblogaeth fwy iach ac actif.

“Roedd gweithgarwch corfforol yn achubiaeth i lawer yn ystod y pandemig ac mae’r sector wedi bod yn gweithio’n eithriadol o galed dros y chwe mis diwethaf, gan ddefnyddio cyllid a gynlluniwyd i helpu’r clybiau, y grwpiau a’r sefydliadau a fu’n bennaf gyfrifol am alluogi cymunedau ledled Cymru i fwynhau bod yn egnïol yn ddiogel,” meddai.

“Mae’r her o ddiogelu sefydliadau, cyfleusterau a swyddi yn parhau i fod yn hollbwysig ac rydym wrth ein bodd y gellir darparu cymorth ychwanegol yn fuan drwy’r Pecyn Achub Chwaraeon a Hamdden.

Pwysleisiodd ei bod yn “bwysig cofio nad yw pawb yng Nghymru yn cael yr un cyfle i gael chwaraeon a gweithgarwch corfforol.

“Yn anffodus, mae’r pandemig wedi dangos bod llawer o’r anghydraddoldebau a oedd eisoes yn bodoli o ran cyfranogiad mewn chwaraeon wedi’u dwysáu, gyda llawer gormod o bobl yn colli allan ar y manteision y gall bod yn egnïol eu cynnig.

“Rhaid i ni fynd i’r afael â hyn, a gwneud yn siŵr fod yn hyn flaenoriaeth i bawb sy’n ymwneud â chwaraeon,” esboniodd Sarah Powell.

“Byddwn yn awr yn gweithio’n gyflym gyda phartneriaid a Llywodraeth Cymru i sicrhau bod y cyllid yn cael ei ddosbarthu’n effeithlon ac yn effeithiol i gyrraedd y rhai sydd â’r angen mwyaf.”