Mae Llywodraeth Cymru wedi cynnig eglurhad pellach o sefyllfa covid y Rhondda wedi i weinidog awgrymu bod cae rasio yn Lloegr yn gysylltiedig â’r naid mewn achosion.

Am 6yp ddydd Iau mi fydd cyfyngiadau llymach yn dod i rym yn ardal Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, a daw hyn yn sgil naid mewn achosion.

Wrth gyhoeddi’r cam fore dydd Mercher dywedodd y Gweinidog Iechyd Vaughan Gething, bod y naid yn gysylltiedig â “thaith clwb i rasys Doncaster – taith a stopiodd mewn cyfres o dafarndai ar hyd y ffordd.”

Brynhawn ddoe daeth ymateb chwyrn gan Gae Rasio Doncaster i sylwadau Vaughan Gething, a dywedon nhw fod dim tystiolaeth o ymwelwyr o dde Cymru ar y diwrnod hwnnw.

Yn ddiweddarach daeth datganiad gan Lywodraeth Cymru yn egluro mai “bwriad gwreiddiol y grŵp oedd teithio i Gae Rasio Doncaster – ond ni aeth y grŵp yno yn y pendraw”.

Mae partner un o’r grŵp bellach wedi bod yn siarad gyda BBC Wales i ymddiffyn y daith:

Ond wfftio hynny wnaeth Vaughan Gething ar Twitter:

“Dw i wedi gweld clip y cyfweliad am daith Doncaster. Aeth y daith flynyddol yn ei blaen er gwaethaf: dim tocynnau; roedd gan rai aelodau o’r daith symptomau ac roeddent wedi cael prawf Covid; [roeddent yn] yfed mewn tafarndai heb aros am ganlyniadau profion…

“Dylai aelodau taith Doncaster fod wedi bod o’r un aelwyd estynedig i gyd-fynd â’r rheolau […] Dylai pobl â symptomau fod hunanynysu. Mae’n enghraifft go iawn o ddigwyddiad taenu Covid na ddylai ddigwydd.”

Y sefyllfa yn y Rhondda

Mae 240,000 o bobol yn byw yn ardal Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, a hi yw’r ail sir yng Nghymru i fynd dan glo – gan ddilyn Bwrdeistref Sirol Caerffili.

Yn ôl Vaughan Gething mae’r ardal wedi profi “cynnydd cyflym” mewn achosion dros gyfnod byr o amser.

Yn siarad ddydd Mercher dywedodd bod 82.1 o bob 100,000 o bobl yno gyda’r feirws, a bod 4.3% o brofion yn bositif yno – yr uchaf yng Nghymru.

Y rheolau newydd

Mae’r mesurau fel a ganlyn:

  • Pobol ddim yn cael mynd i mewn i ardal Cyngor Rhondda Cynon Taf, na’i gadael heb esgus rhesymol
  • Mae’n ofynnol i bawb dros 11 oed wisgo gorchuddion wyneb mewn mannau cyhoeddus dan do – fel sy’n wir ledled Cymru
  • Dim ond yn yr awyr agored y mae pobl yn gallu cwrdd am y tro. Nid yw pobl yn gallu cwrdd ag aelodau o’u cartref estynedig dan do na ffurfio aelwyd estynedig
  • Rhaid i dafarndai a bwytai gau erbyn 11yh

“Anallu syfrdanol”

Mae Andrew RT Davies, llefarydd iechyd y Ceidwadwyr Cymreig, wedi galw camgymeriad Llywodraeth Cymru yn enghraifft o “anallu syfrdanol”, ac mae’n mynnu ymddiheuriad.

“A ninnau yng nghanol argyfwng iechyd mae’n allweddol bod y wybodaeth mae llywodraeth a gweinidogion yn darparu i bobol Cymru yn iawn,” meddai.

“Felly rhaid cywiro hyn, a rhaid i Lywodraeth Lafur Cymru fynd ati ar unwaith i egluro a rhoi ymddiheuriad.”