Mae ymgyrchwyr iaith yn galw ar Lywodraeth Cymru am wersi Cymraeg am ddim i ffoaduriaid.

Flwyddyn diwethaf caniataodd Llywodraeth Cymru i geiswyr lloches fynychu gwersi Cymraeg am ddim, ac mae Cymdeithas yr Iaith yn awyddus i’r cynllun gael ei ymestyn i gynnwys ffoaduriaid.

Yn ogystal mae Cymdeithas yr Iaith yn galw ar Lywodraeth Cymru i sefydlu cronfa i roi mynediad at y we i ffoaduriaid a cheiswyr lloches er mwyn iddynt gael mynediad at wersi Cymraeg ar-lein gan nad yw gwersi wyneb yn wyneb yn bosib yn sgil Covid-19.

Mae nifer fawr o ffoaduriaid heb fynediad cyson at y we, ac nid yw’r Swyddfa Gartref yn darparu cyswllt di-wifr mewn lletyau ceiswyr lloches.

“Cyfle i Lywodraeth Cymraeg roi cig ar yr asgwrn”

Dywedodd Joseff Gnabgo, Swyddog Rhyngwladol Cymdeithas yr Iaith, “Cyn y llynedd, roedd yn rhaid i geiswyr lloches dalu i fynychu gwersi Cymraeg – mae’r ffaith fod y sefyllfa hon wedi newid ers hynny, wedi blynyddoedd o ymgyrchu ar y mater, yn bendant yn rhywbeth i’w ddathlu.

“Er hyn, rydyn ni’n galw am wneud holl wersi Cymraeg a’u darperir gan y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol am ddim i ffoaduriaid hefyd, nid dim ond ceiswyr lloches.

“Gan fod ceiswyr lloches a ffoaduriaid yn wynebu llawer o’r un mathau o anghyfiawnderau a rhagfarnau, roedd y penderfyniad i ddarparu gwersi Cymraeg i’r naill ond nid i’r llall wastad yn un mympwyol.

“Mae gan y Llywodraeth Cymru bolisi i wneud Cymru yn Genedl Noddfa – ond ymddengys ar adegau mai dim ond geiriau gwag yw hyn,” meddai Joseff Gnabgo.

“Dyma gyfle Llywodraeth Cymru roi cig ar yr asgwrn, gweithredu ei egwyddorion datganedig o gynwysoldeb a thegwch, a sicrhau fod gan bawb, o bob cefndir, fynediad at yr iaith.”

Y llynedd, yn sgil parterniaeth rhwng Addysg Oedolion Cymru, Cyngor Ffoaduriaid Cymru a Chymdeithas yr Iaith cafodd ffoaduriaid a cheiswyr lloches fynediad at wersi SaySomethinginWelsh yn rhad ac am ddim.

Yn ôl Joseff Gnagbo, mae llwyddiant y cynllun yn profi “nad oes unrhyw reswm pam na ddylai’r Llywodraeth roi’r hawl i ffoaduriaid fynychu gwersi Cymraeg a’u darperir gan y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yn rhad ac am ddim.”

Record “gymysg” gan Lywodraeth Cymru yn y maes

Mae gan Lywodraeth Cymru record gymysg yn y maes hwn, meddai Cymdeithas yr Iaith, ond yn sgil y gwersi Cymraeg am ddim i ymgeiswyr lloches, mae’r grŵp yn obeithiol y daw esblygiad pellach.

“Mae’r ffoaduriaid, fel Joseff, sydd wedi dysgu’r Gymraeg yn ysbrydoli pobl ledled y wlad i ddysgu ac yn codi hyder pawb i ddefnyddio’r sgiliau Cymraeg sydd gyda nhw,” ychwanegodd Mabli Siriol, Cadeirydd Grŵp Addysg Cymdeithas yr Iaith.

Byddai cynnig gwersi Cymraeg am ddim i ffoaduriaid yn ffordd arbennig o’u cynnwys yn ein cymdeithas a gwireddu’r weledigaeth o wneud Cymru’n Genedl Noddfa.

“Rydym yn galw’n ogystal ar y Llywodraeth i sicrhau mynediad at y we i’r holl geiswyr lloches a ffoaduriaid er mwyn iddynt gael mynediad at wersi ar-lein yn ystod y cyfnod presennol pan nad yw gwersi wyneb yn wyneb ar gael.

“Mae Cymdeithas yr Iaith wedi galw ar y pleidiau i gyd i fabwysiadu ein gweledigaeth o Ddinasyddiaeth Gymraeg i Bawb cyn yr etholiad flwyddyn nesaf, i ymestyn yr iaith i grwpiau sydd wedi’u heithrio ohoni.

“Byddai sicrhau mynediad i wersi Cymraeg am ddim i ffoaduriaid a cheiswyr lloches yn gam cadarnhaol tuag at wireddu’r weledigaeth honno.”