Dylai Cyngor Powys weithredu yn erbyn ffermydd ieir er mwyn achub ansawdd dŵr Afon Gwy, yn ôl deiseb sydd bellach wedi derbyn dros 75,000 o enwau.
Mae’r ddeiseb yn honni bod carthion ieir o’r ffermydd yn diweddu fyny yn yr afon gan ei throi’n “lliw gwyrdd pwdr”, ac mae ymgyrchwyr yn poeni am effaith hyn ar fywyd gwyllt.
Mae hefyd yn dweud bod gan Gyngor Sir Powys a Cyfoeth Naturiol Cymru “gyfrifoldeb cyfreithiol” i amddiffyn yr afon, ond eu bod yn “gyndyn” i ddefnyddio’r pwerau sydd ganddyn nhw.
Trwy roi caniatâd cynllunio i unedau ieir mae’r cyngor wedi methu “tro ar ôl tro” ag ystyried yr effaith ar yr amgylchedd lleol, meddai’r ddeiseb, ac felly rhaid gweithredu.
“Digon yw digon. Galwn ar Gyngor Sir Powys i wrthod a rhoi rhagor o ganiatâd cynllunio ar gyfer unedau ieir – neu ar gyfer ehangu unedau ieir – yn y sir.
“Dylid gwrthod caniatâd cynllunio tan fod yr effaith lawn ar yr amgylchedd a’r gymuned yn medru cael ei asesu.”
Llond sir o ieir
Mae’r ddeiseb yn honni bod 116 uned dofednod “dwys” ym Mhowys, gyda dros 40,000 ym mhob un. Mae’r ymgyrchwyr yn dyfalu bod tua 8.5m o ieir yn unedau cyfreithlon y Sir, sef 64 iâr i bob person.
Meddai Ann Weedy, Rheolwr Gweithrediadau y Canolbarth ar gyfer Cyfoeth Naturiol Cymru: “Mae’r adolygiad i edrych ar yr Afon Gwy yn parhau a byddwn mewn sefyllfa i roi’r wybodaeth ddiweddaraf unwaith y bydd y gwaith hwnnw wedi’i gwblhau.
“Mae’r gwaith i ddeall yn well achosion y blŵm algaidd yn yr afon yn bwysig iawn. Bydd hyn yn llywio’r cynllun gweithredu i wella safon y dwr ac rydym eisiau cymryd yr amser i wneud hynny’n iawn.”