Mae Boris Johnson wedi achosi rhywfaint o ddryswch trwy awgrymu y dylai pobol bwyllo cyn adrodd i’r awdurdodau am gymdogion sy’n torri rheolau ymgynnull.

Mae rheolau covid yn raddol cael eu tynhau a bellach does dim modd i fwy na chwech o bobol ymgynnull dan do – mae hynny mewn grym ym mhob un o wledydd Prydain.

Wrth siarad ar ddechrau’r wythnos awgrymodd Priti Patel, yr Ysgrifennydd Cartref, y dylai pobol “adrodd” achosion o’r fath.

Ond bellach mae Prif Weinidog y Deyrnas Unedig wedi cymhlethu pethau trwy awgrymu y dylid siarad â’r rhai sy’n torri’r rheolau cyn cysylltu â’r awdurdodau.

“Dw i’n bersonol  ddim yn hoffi diwylliant slei,” meddai wrth bapur The Sun. “Os oes gan bobol bryderon dylen nhw godi hynny â’i ffrindiau a chymdogion yn gyntaf.”

Wedi hynny dywedodd “ei fod yn rhesymol bod awdurdodau yn cael gwybod” pe bai parti mawr yn digwydd yn nhŷ rhywun – parti sydd yn peri “bygythiad difrifol i iechyd cyhoeddus”.

Plismyn yn “ceisio dehongli”

Daw’r sylwadau wedi i’r Gweinidog Plismona, Kit Malthouse, awgrymu y dylai pobol ffonio 101 – rhif am achosion o drosedd nad yw’n rhai brys – os oes ganddyn nhw bryderon am gymdogion yn torri rheolau.

Mae Cadeirydd Ffederasiwn Heddlu Cymru a Lloegr, John Apter, eisoes wedi dweud bod plismyn y rheng flaen yn “ceisio dehongli” y rheolau.

“Efallai dylwn gael rhagor o ganllawiau yn hyn o beth,” meddai ar y rhaglen ITV Good Morning Britain, “oherwydd dy’n ni heb gael hyn eto.”