Mae tai haf yn dinistrio cefn gwlad ac mae angen gweithredu. Dyna’r gri gan Gwyn Wigley Evans, Arweinydd y blaid genedlaetholgar Gwlad sy’n bodoli ers dwy flynedd bellach…

Mae’n anodd gwybod lle i gychwyn gyda sefyllfa tai Cymru.

Mae wedi mynd yn gymhleth, efo tai haf, ail dai, tai cyngor, cymdeithasau tai, cynghorau lleol, Caerdydd, Llundain.