Mae Llywodraeth Cymru wedi penderfynu peidio mynd i’r afael ag “anomali” sy’n galluogi perchnogion tai haf i osgoi talu trethi, yn ôl un o Aelodau o’r Senedd Plaid Cymru.

Ond mae’r Llywodraeth wedi mynnu wrth gylchgrawn Golwg eu bod “yn parhau i fonitro’r sefyllfa’n agos gyda llywodraeth leol a byddwn yn cyflwyno rheoliadau pellach os oes angen i sicrhau bod system deg ar waith”.