Mae angen i Lywodraeth Cymru gyflymu’r capasiti profi am Covid-19 er mwyn arbed nifer uchel o absenoldebau mewn ysgolion, meddai Gweinidog Cysgodol Addysg Plaid Cymru, Siân Gwenllïan.

Dywedodd Aelod Seneddol Arfon bod dibynnu ar system brofi Brydeinig sy’n cael ei rheoli gan Lywodraeth San Steffan yn cael effaith negyddol ar ddisgyblion yng Nghymru.

Gan nad oes digon o brofion ar gael mae nifer o ddisgyblion yng Nghymru yn absennol o’r ysgol am amser hirach nag sydd angen, yn unol â pholisïau ysgol sydd ddim yn caniatáu i unigolion symptomatig ddychwelyd i’r ysgol oni bai eu bod nhw wedi profi’n negatif am Covid-19.

Roedd 55 o ysgolion yng Nghymru wedi adrodd bod yn rhaid i ddisgyblion hunan-ynysu am 14 diwrnod erbyn ddoe (Medi 16).

Dibynnu ar gynllun profi Prydeinig yn “niweidiol i addysg plant”

Mae “dibynnu ar gynllun profi ledled y DU wedi bod yn niweidiol i addysg plant,” mynnodd Siân Gwenllïan.

“Mae yna wallau enfawr o fewn y strategaeth brofi ar gyfer ysgolion, a dydy Gweinidog Addysg Llywodraeth Cymru ddim yn cymryd unrhyw gyfrifoldeb drosto.

“Mae’r oedi a’r diffyg profion yn golygu bod gormod o ddisgyblion yn absennol heb angen ac yn colli allan ar eu haddysg unwaith eto.

“Mae fy mewnflwch yn llawn e-byst gan rieni ar draws Cymru sy’n dweud bod eu hysgolion wedi danfon eu plant adref, ond nad oes modd cael gafael ar brawf trwy’r post na thrwy ganolfan profi drwy ffenest (drive in) – sy’n golygu nad yw’r plentyn yn medru dychwelyd i’r ysgol.

“Mae dibynnu ar system brofi San Steffan nawr yn achosi niwed i addysg ein plant a phobol ifanc – addysg sydd yn barod wedi’i heffeithio cymaint gan y feirws,” meddai.

Galw ar Lywodraeth Cymru i gymryd cyfrifoldeb

Wrth alw ar Lywodraeth Cymru dywedodd Siân Gwenllïan:“Dyma fy neges i’r Gweinidog Addysg a’r Gweinidog Iechyd (Llywodraeth Cymru), derbyniwch gyfrifoldeb.

“Defnyddiwch yr holl gapasiti sydd yn ein gwasanaeth iechyd gwladol a chyflymwch ar y cynlluniau i gynyddu capasiti profi.

“Gallwn ni ddim aros tan fis Tachwedd i ddatrys hyn.”