Ers mis Mawrth mae Gwesty Seren, yn Llan Ffestiniog, wedi bod yn danfon bwyd poeth o amgylch ardal Ffestiniog.

Mae cynllun Pryd ar Glud yn rhan o bartneriaeth gyda Chyngor Gwynedd.

Gwireddwyd y cynllun drwy ymdrechion y diweddar Dafydd Wyn Jones, a oedd yn gyfarwyddwr i dîm pêl-droed Porthmadog ac yn weithgar iawn yn ei gymuned.

O ddydd Llun i ddydd Gwener mae’r cynllun yn danfon prydau poeth o amgylch Llan Ffestiniog, Blaenau Ffestiniog, Manod, Tanygrisiau, Gellilydan a Thrawsfynydd.

“Roedd cynlluniau ar gyfer y gwasanaeth Pryd ar Glud ar y gweill cyn y cyfnod clo, ond oherwydd y cyfnod hwn fe wnaethom benderfynu dechrau’r gwasanaeth yn gynt na’r disgwyl,” esboniodd Ceri Hughes, ar ran tîm Gwesty Seren.

4,000 o brydau wedi eu paratoi hyd yn hyn.

Dywedodd Ceri Hughes golwg360 eu bod yn “paratoi rhwng 210 a 250 o brydau bob wythnos.

“Rydym ar wythnos 18 o’r gwasanaeth erbyn hyn, felly mae’n debyg ein bod ni wedi paratoi dros 4000 o brydau ers dechrau’r gwasanaeth yn ôl ym mis Mawrth.

“Ar hyn o bryd mae bron i 180 o bobol leol wedi eu cofrestru â’r gwasanaeth.

“Mae’r gwasanaeth ar gael i unrhyw un sydd ei angen a’i eisiau, nid yn unig i bobol fregus.”

Dros y cyfnod mae tîm o 6 i 10 o aelodau staff wedi bod yn gweithio ar y gwasanaeth, rhwng y tîm rheoli, y cogydd a’r gyrwyr.

“Ar hyn o bryd nid yw’n bosib i bobol ddod i nôl y prydau, dim ond cael y prydau wedi eu danfon atynt, ond wrth i’r gwasanaeth dyfu a datblygu byddai’n bosib trafod hyn.

“Mae’n bleser gweld y gwasanaeth yn cael ei ddefnyddio gan bobol yr ardal,” meddai Ceri Hughes.

“Y bwriad yw parhau gyda’r gwasanaeth ar ôl Covid, a gyda chefnogaeth barhaus pobol leol rydym yn gobeithio y bydd posib gwneud hynny.”

Gobeithion am barhad y cynllun

Un sydd wedi elwa o’r cynllun yw Dafydd Jones, o Flaenau Ffestiniog.

“I ddau yn ein 90au mae’r cynllun wedi bod yn ardderchog, mae’r bwyd yn dda a’r pris yn rhesymol ofnadwy,” meddai Dafydd Jones wrth golwg360.

“Mae’r dewis yn eithriadol o dda, ac mae digon o amrywiaeth o fwydydd llysieuol, yn ogystal â phrydau gyda chig.

Cynigia’r gwasanaeth opsiynau gwahanol bob diwrnod ac mae’r fwydlen yn newid yn wythnosol, gydag opsiwn llysieuol ac anllysieuol, a phwdin ar gael bob diwrnod.

“Gall y cyfnod hwn fod yn unig, ond mae’r staff sydd yn danfon y bwyd bob tro yn glên a siriol, ac mae’n braf cael bobol yn galw.”

Pwysleisiodd, “mae’n hwb cael gweld pobol eraill.”

“Gobeithiaf yn fawr y bydd y cynllun Pryd ar Glud yn parhau ymhell tu hwnt i gyfnod Covid-19,” pwysleisiodd.