Mae Aelod o’r Senedd Plaid Cymru wedi galw ar Lywodraeth Cymru i ddyblu cyfradd y dreth sy’n cael ei godi wrth i bobol brynu ail eiddo, er mwyn mynd i’r afael â gor-bryniant tai haf mewn cymunedau Cymraeg.

Ar hyn o bryd mae cyfradd y Dreth Trafodiadau Tir ychydig yn uwch ar gyfer eiddo sy’n cael ei brynu fel ail eiddo.

Gan fod cymaint o dai yn cael eu gwerthu mewn cadarnleoedd Cymraeg er mwyn cael eu defnyddio fel tai haf, mae Delyth Jewell, Aelod o’r Senedd dros y De-ddwyrain, yn awgrymu nad yw’r gyfradd yn ddigon uchel.

Yn ôl Delyth Jewell, byddai dyblu’r gyfradd yn annog pobol i beidio â phrynu tai fel ail gartrefi, gan roi mwy o gyfle i bobol leol allu cystadlu am gartrefi yn eu cymunedau.

Dywedodd llefarydd Tai Plaid Cymru, Delyth Jewell: “Mae’r ffaith bod oddeutu 40% o dai gafodd eu gwerthu yng Ngwynedd y flwyddyn ddiwethaf wedi eu prynu fel ail gartrefi yn symptom o farchnad dai sydd allan o reolaeth ac yn gweithio yn erbyn buddiannau cymunedau Cymraeg.

“Mae straeon anecdotaidd o’r cadarnleoedd yn awgrymu bod y broblem wedi gwaethygu yn ddifrifol ers i’r cyfyngiadau Covid-19 gael eu llacio, gyda rhai yn sôn am stoc tai pentrefi cyfan yn cael eu prynu fel tai haf.”

Ddoe (Medi 16) cafodd Llŷr Huws Gruffydd ei wahodd i drafod yr argyfwng ail dai gyda Llywodraeth Cymru.

Angen i’r farchnad weithio “o blaid cymunedau a phobol gyffredin”

“Un cam y gallai Llywodraeth Cymru ei weithredu ar unwaith er mwyn mynd i’r afael â’r broblem yw cynyddu’r gyfradd dreth ar gyfer prynu ail gartrefi yng Nghymru, drwy ddyblu cyfradd uwch y Dreth Trafodiadau Tir,” meddai Delyth Jewell.

“Byddai gwneud hyn yn rhwydd ac effeithiol.”

Yn ôl Delyth Jewell, “byddai’n rhwydd gan fod Llywodraeth Cymru wedi codi’r trothwy treth ar gyfer prynu eiddo cyntaf yn ôl ym mis Gorffennaf, gyda dim problemau.

“Mae’n hen bryd i ni gael trafodaeth eang yng Nghymru ynghylch pwrpas y farchnad dai a rôl llywodraeth mewn sicrhau ei fod yn gweithio ar gyfer lles pobl a chymunedau, yn hytrach na buddsoddwyr cefnog.

“Effaith rhoi rhwydd hynt i’r farchnad weithio heb gyfyngiadau digonol yw bod cymunedau yn colli eu hunaniaeth a bod y bobl gyda’r lleiaf o arian mewn sefyllfa o gael eu gormesu yn ariannol wrth i bris rhentu gynyddu yn ddi-baid.

“Mae’n hen bryd troi grym y farchnad i weithio o blaid cymunedau a phobol gyffredin.”

Rhun ap Iorwerth yn cefnogi’r alwad

Mae Gweinidog Cysgodol Plaid Cymru dros Gyllid, Rhun ap Iorwerth, yn cefnogi’r galw i gynyddu’r dreth ar gyfer prynu ail dai.

“Mae’n rhaid chwilio am bob modd o warchod ein stoc dai a gwarchod buddiannau ein cymunedau ac un ffordd y gellid gwneud hynny yn gyflym fyddai i ddefnyddio’r Dreth Trafodiadau Tir,” meddai Rhun ap Iorwerth, Aelod o’r Senedd Ynys Môn.

“Mae gennym y fframwaith trethiannol yng Nghymru i wneud hyn, felly dylid ei defnyddio.

“Ond un cam byrdymor fyddai hyn, ac rydw i’n eiddgar i weld Llywodraeth Cymru yn edrych ar draws holl elfennau o bolisi tai a chynllunio, er mwyn sicrhau bod rheolau’n ffafrio pobl sy’n chwilio am gartref i fyw ynddo, nid dim ond tŷ ar gyfer hamdden neu i wneud elw.”

Mae’r mesur yma yn un ymhlith pecyn eang o bolisïau fydd Plaid Cymru yn eu cyhoeddi mewn dadl yn y Senedd ddydd Mercher nesaf (Medi 23) yn ymwneud ag ail dai, prisiau tai a stoc tai cymunedol.