Mae Llywodraeth Cymru wedi gwahodd Llŷr Huws Gruffydd, Aelod Seneddol i Blaid Cymru dros ranbarth y gogledd, i gyfarfod er mwyn trafod yr argyfwng ail dai yng nghefn gwlad Cymru.
Daw’r gwahoddiad wedi i Llŷr Huws Gruffydd wneud cais i Lywodraeth Cymru fynd i’r afael â phroblemau ynghylch nifer ail gartrefi a lletyau gwyliau megis AirBnB.
Cafodd y mater ei godi ddwywaith yn y Senedd ddoe (15 Medi) gan Llŷr Huws Gruffydd, gyda Threfnydd y Senedd, Rebecca Evans AS, a’r Gweinidog Tai, Julie James AS.
Yn y Siambr ym Mae Caerdydd dywedodd Llŷr Huws Gruffydd fod yr “argyfwng yn cael ei yrru yn bennaf, ond nid yn unig, gan y ffaith bod nifer cynyddol o gartrefi nawr yn cael eu prynu fel ail gartrefi neu dai gwyliau.
“Mae’n cael ei ddwysau hefyd, wrth gwrs, gan y ffaith bod mwy o bobol nawr yn symud o’r dinasoedd a’r ardaloedd poblog i gefn gwlad mewn ymateb, wrth gwrs, i’r pandemig.
“Fe glywodd y Gweinidog yn y Pwyllgor Cyllid ddoe fod nifer o Aelodau’n teimlo y dylai’r Llywodraeth fod yn gwneud gwell defnydd o’i phwerau trethiannol i geisio mynd i’r afael â’r mater yma.
“Byddwn i’n licio clywed pa gamau o’r newydd y mae’r Llywodraeth yn edrych arnyn nhw i’r perwyl hwnnw.
“Ond yn bennaf oll, wrth gwrs, mae angen edrych ar gamau pendant o fewn y gyfundrefn gynllunio, ac yn sicr mae angen rheoli’r gallu i newid defnydd tŷ annedd o fod yn gartref cyntaf i fod yn ail gartref, man lleiaf.”
Crybwyllodd Llŷr Huws Gruffydd enghreifftiau o gamau sydd wedi eu cymryd mewn rhannau arall o wledydd Prydain er mwyn mynd i’r afael â’r broblem, megis yng Nghernyw ac Ynys y Garn.
Llywodraeth Cymru yn “ymchwilio i nifer o bethau”
Wrth ymateb dywedodd Julie James fod Llywodraeth Cymru yn “ymchwilio i nifer o bethau.
“Un ohonynt ydy i gynyddu’r nifer o’r tai cymdeithasol yr ydym yn eu hadeiladu mewn cymunedau ar draws Cymru a sicrhau fod y tai hynny ar gael i bobl leol yn y ffyrdd cywir.
“Y peth arall ydy rhoi camau i anghymell ail dai a dysgu’r gwersi o hynny.”
Ychwanegodd ei bod yn hapus i gyfarfod a’r Aelod o’r Senedd i drafod y mater ymhellach ac i ystyried ystod o syniadau posib i fynd i’r afael â’r broblem.
Angen mynd i’r afael â’r argyfwng “ar fyrder”
Mynnodd Llŷr Huws Gruffydd fod “angen dybryd mynd i’r afael â hyn ar fyrder.
“Mae’r farchnad dai yn gor-boethi, ac yn niweidio cymunedau Cymreig a Chymraeg.
“Mae gwladwriaethau a llywodraethau eraill wedi cymryd camau i fynd i’r afael â hyn.
“Mae wedi bod yn broblem am ddegawdau a hyd yma nid yw’r Llywodraeth wedi dangos unrhyw awydd I ddatrys y sefyllfa.
“O fethu a gwneud rŵan mi fyddai’n sen ar ein deddfwrfa ddatganoledig ac yn dangos methiant y drefn bresennol.”
Gwerthwyr tai yn “ofnadwy o brysur”
Mae pryder wedi bod ynghylch yr argyfwng tai yn Llŷn yn ddiweddar, gyda’r Cynghorydd Gruffydd Williams yn dweud wrth y BBC fod posib y bydd mwy o gymunedau “fel Abersoch,” lle nad oes llawer o Gymraeg i’w chlywed, yn datblygu os na fydd newid i’r drefn.
Dywedodd llefarydd ar ran gwerthwyr tai Eiddo, sydd yn canolbwyntio ar Ynys Môn, wrth golwg360 fod y teimlad yn debyg iawn yno.
“Dwi’n meddwl fod yr un teimlad yma ym Môn, gyda phob cwmni dwi wedi siarad efo nhw yn ei gweld hi’n ofnadwy o brysur, a llawer o ddiddordeb yn cael ei ddangos mewn tai i’w prynu a rhentu gan bobl sydd ddim yn lleol.”
Nododd fod gan “ambell i berchennog tai lleol gydymdeimlad tuag at bobol ifanc, ac yn awyddus i sicrhau fod pobol leol yn medru prynu eu tŷ nhw, efallai ar draul cael pris uwch gan ddieithriaid.”