Mae Jeff Smith, Cadeirydd Rhanbarth Ceredigion Cymdeithas yr Iaith, wedi dweud bod cwmni sy’n dosbarthu taflenni o amgylch ardal Aberystwyth yn cynnig gwerthu tai pobl leol yn ymddwyn yn “hollol warthus”.

Mae Fine and Country yn gwerthu “tai moethus” ar draws gwledydd Prydain ac yn agor “ardal rhagoriaeth yng ngorllewin Cymru.”

Maen nhw eisoes yn gweithredu yn Sir Benfro ac ym Mhowys a nawr yn troi at Geredigion.

“Mae’n hollol warthus fod ‘Fine and Country – West Wales’ yn dosbarthu taflenni o amgylch ardal Aberystwyth yn annog pobl leol i werthu eu tai i bobl gyfoethog sy’n byw tu allan i’r ardal,” meddai Jeff Smith, “ac yn annog i’r cyfoethogion hyn i brynu tai yn yr ardal; ar yr un pryd mae llawer o bobl ar gyflogau lleol yn ei chael yn anodd i dalu eu morgeisi neu brynu tŷ, yn enwedig yn sgil pandemig iechyd byd-eang.

“Mae hyn yn enghraifft glir o gwmni di-egwyddor yn egsbloitio sefyllfa iechyd ac economaidd gwbl fregus heb unrhyw ots am ganlyniadau eu gweithredoedd.

“Nid yn unig hyn, ond mae’r cwmni wedi bod yn anfon llythyrau personol gwbl nawddoglyd, yn uniaith Saesneg wrth gwrs, drwy flwch postio pobl leol sy’n cymryd yn ganiataol eu bod eisiau gwerthu eu tai.

“Nid oes gan y cwmni hwn unrhyw barch at bobl Cymru nac ychwaith at yr iaith Gymraeg.

“Mae gennym neges glir i’r cwmni: Nid Yw Cymru Ar Werth. Ac mae gennym neges glir i Lywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol: mae angen ichi ymwrthod â’r fframwaith bolisi Thatcheraidd yr ydych yn gweithredu oddi fewn, ac yn hytrach sicrhau fod y farchnad dai yn gweithio er budd cymunedau, nid cyfalafiaeth.”

“Tai moethus”

Mae cwmni Fine and Country yn dweud eu bod yn delio â “thai moethus” ac mae eisoes yn gweithredu yn Sir Benfro ac ym Mhowys.

Meddai’r cwmni yn y pamffled: “Os oes gennych chi ddiddordeb mewn prynu neu werthu yn yr ardal leol byddwn yn hapus i drafod ein hystod eang o wasanaethau yn lleol, cenedlaethol a rhyngwladol.”

Ac mae golwg360 wedi siarad gyda swyddog y cwmni yng Ngheredigion.

“Mae gan Fine and Country drwyddedau mewn gwahanol ardaloedd yn y Deyrnas Unedig, a dw i’n edrych ar ôl Ceredigion,” meddai Nigel Salmon, sy’n gyfrifol am ardal Ceredigion i Fine and Country.

“Roedd hwn yn un o’r ardaloedd lle nad oedd Fine and Country yn gweithredu, felly gofynnodd y cwmni imi lansio pethau yma… mae’n fusnes newydd yn yr ardal.”

Pamffled Fine and Country

Daw hyn wrth i densiynau godi ynghylch tai haf yng Nghymru.

Gorymdeithiodd criw o tua 30 o gynghorwyr, pobol leol ac ymgyrchwyr o Nefyn i Gaernarfon er mwyn pwyso ar Lywodraeth Cymru i fynd i’r afael â phroblem tai haf y gogledd ddydd Sadwrn (Medi 26).

“Allwn ni ddim rheoli’r farchnad”

Wrth ymateb i honiadau bod pobol leol methu fforddio tai yng Ngheredigion, dywedodd Nigel Salmon, sydd wedi byw yn y sir ers 20 mlynedd, nad yw Fine and Country yn dweud eu bod yn prynu a gwerthu tai gan bawb.

“Allwn ni ddim rheoli’r farchnad, rydym yn cynnig gwasanaeth ac nid i bobol Saesneg yn unig yr ydym ni’n gwerthu,” meddai.

“Mae’r farchnad tai yn byrlymu ac mae nifer o bobol wedi bwriadu symud neu brynu tŷ yn yr ardal ers tro… rhai’n ymddeol er enghraifft.

“Dw i wedi byw yma ers 20 mlynedd a dw i ddim eisiau cael fy ngweld fel Sais sy’n dod yma i ddwyn tai pobol.

“Mae fy ardal i’n edrych ar dai a phobol sydd angen marchnata ar draws marchnadoedd lleol, cenedlaethol a rhyngwladol.

“Ac nid dim ond prynwyr Saesneg a rhyngwladol sydd yn eu prynu, mae gan gleientiaid Cymraeg ddiddordeb hefyd.”