Mae aelod o staff mewn ysgol uwchradd yng Nghaernarfon wedi profi’n bositif am y coronafeirws.

Mae’r ysgol yn dilyn cyngor gwasanaeth Profi, Olrhain a Diogelu Iechyd Cyhoeddus Cymru, a dosbarth cyfan o ddisgyblion oedd â chysylltiad â’r aelod o staff yn Ysgol Syr Hugh Owen bellach yn hunan-ynysu am bythefnos.

Nid yw’n glir faint o ddisgyblion sydd wedi eu heffeithio.

“Mae gofyn i un dosbarth hunan-ynysu yn ogystal â rhai disgyblion unigol eraill a fu mewn cysylltiad â’r aelod o staff”, meddai llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd.

“Rydym yn anfon ein dymuniadau gorau at yr aelod o staff ac yn annog y rheini y bydd y gwasanaeth Profi, Olrhain a Diogelu yn cysylltu â nhw i ddilyn y cyngor a ddarperir ar gyfer diogelwch eu teulu a’u cymuned leol.”

Mae’r ysgol yn parhau ar agor a’r cyngor i ddisgyblion a staff yw i barhau i fynychu’r ysgol, oni bai eu bod yn dangos unrhyw symptomau.